Ysgrifennydd Cymru yn cynnal yr alwad gyntaf gyda Phrif Weinidog newydd Cymru i drafod blaenoraiethau cyffredin
Cynhaliodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei galwad ffôn cyntaf gyda Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog newydd Cymru.
Secretary of State for Wales Jo Stevens
Heddiw (dydd Llun 18 Mai), cynhaliodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei galwad ffôn cyntaf gyda Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog newydd Cymru.
Yn alwad, llongyfarchodd Ysgrifennydd Cymru’r Prif Weinidog ar ganlyniadau ei blaid yn yr etholiad diweddar y Senedd ac amlinellodd bwysigrwydd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cydweithio’n adeiladol ar faterion a blaenoriaethau cyffredin.
Eglurodd yr Ysgrifennydd Gwladol fudd Llywodraethau’r DU a Chymru yn cydweithio ar flaenoriaethau cyffredin ynghylch cost byw a thlodi yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus a thwf economaidd, gan gynnwys darparu seilwaith ynni glân yng Nghymru.
Ailadroddodd Ysgrifennydd Cymru hefyd bwysigrwydd cydweithio rhwng llywodraethau ar gynhyrchu dur Cymru a’r cyfnod pontio ym Mhort Talbot, cronfeydd twf, ac amddiffyn a diogelwch cenedlaethol.
Roedd y sgwrs heddiw yn dilyn galwad a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf rhwng Prif Weinidog y DU, Keir Starmer, a Phrif Weinidog newydd Cymru, lle bu iddo yntau hefyd longyfarch y Prif Weinidog newydd ar gael ei benodi a chynnig cwrdd wyneb yn wyneb ym mis Mehefin i drafod materion a blaenoriaethau cyffredin.