Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd gan Lywodraeth y DU yn 2023

Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies bod cynnydd enfawr yn cael ei wneud o ran tyfu'r economi a chyflawni prosiectau mawr i ledaenu swyddi, ffyniant a buddsoddiad ledled Cymru wrth iddo edrych ymlaen at 2024.

Welsh Secretary David TC Davies

Yn ôl Ysgrifennydd  Cymru, David TC Davies mae Llywodraeth y DU wedi bod yn brysurach nag erioed yn 2023 yn cyflawni dros Gymru.

Yn ei neges ar gyfer y Flwyddyn Newydd, dywed Mr Davies bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud i dyfu’r economi a chyflwyno prosiectau mawr i sicrhau bod swyddi, ffyniant a buddsoddiad yn cael eu rhannu ledled y wlad.

Mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu i fuddsoddi mewn prosiectau ar draws Cymru, o Sir Benfro i Ynys Môn, ac o Sir Fynwy i Bort Talbot – gan ganolbwyntio yn ddiflino ar rymuso a gwella cymunedau a chyfleon pobl yng Nghymru.

Mae’r cyllid ar gyfer ffyniant bro yng Nghymru bellach wedi cyrraedd £2biliwn.  Yn 2023, bu i Lywodraeth y DU gyhoeddi dwy Ardal Buddsoddi a dau Borthladd Rhydd ynghyd â buddsoddi mewn dwsinau o brosiectau ar hyd a lled Cymru wedi eu targedu ar gyfer adnewyddu canol trefi, rhoi hwb i isadeiledd a gwella cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr.

Dywedodd David TC Davies:

Fel Ysgrifennydd Cymru, rwy’n falch o fod yn rhan o weinyddiaeth Llywodraeth y DU yng Nghymru sydd wedi bod yr un fwyaf gweithgar ers i ddatganoli gymryd lle chwarter canrif yn ôl.

Trwy bump o gytundebau tyfiant ar gyfer Cymru, dau borthladd rhydd, nifer o ffynonellau cyllido ffyniant bro a dwy Ardal Buddsoddi mae Llywodraeth y DU yn gwario £2 biliwn ychwanegol mewn buddsoddiad uniongyrchol yng Nghymru, yn ogystal â’r lefel hanesyddol uchaf o gyllid rydym yn ei ddarparu i Lywodraeth Cymru i gyflwyno ei wasanaethau datganoledig fel iechyd ac addysg.

Rwyf hefyd yn falch ein bod yn buddsoddi yn uniongyrchol mewn isadeiledd trafnidiaeth gan gynnwys £1biliwn ar drydaneiddio y brif reilffordd ar draws Gogledd Cymru, £5 miliwn i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn Sir Fynwy, ac yn gynharach yn ystod y mis hwn, gwych oedd gweld fy nghydweithiwr yn Swyddfa Cymru, Fay Jones yn agor Traphont y Bermo yn dilyn £30 miliwn o waith adnewyddu wedi ei gyllido gan Lywodraeth y DU.

Ychwanegodd:

Mae’r buddsoddiadau hyn yn bwysig iawn i gymunedau ac wedi cymryd lle oherwydd bod cynllun economaidd Llywodraeth y DU yn gweithio.  Ychydig wythnosau yn ôl roeddwn yn Nhŷ’r Cyffredin yn gwrando ar y Canghellor, Jeremy Hunt yn cyhoeddi mwy o newyddion da i Gymru yn ei Ddatganiad ar gyfer yr Hydref.

Bydd ei fesurau yn sicrhau y bydd 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru ar gyfartaledd yn cael £324 yn fwy yn eu cyflogau trwy leihau cyfraniadau Yswiriant Gwladol a bydd y cynnydd mwyaf erioed yn yr Isafswm Cyflog Byw  yn effeithio ar 130,000 o weithwyr Cymru.

Mae’r clo triphlyg wedi ei gadw ar gyfer pensiynwyr a bydd budd-daliadau yn parhau i godi yn unol â chwyddiant.  Mae’r dreth ar alcohol wedi aros ar yr un lefel ac mae’r Lwfans Tai Lleol wedi cynyddu.

Yn benodol ar gyfer Cymru, mae ymroddiad uchelgeisiol ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, £800,000 ar gyfer y Ganolfan Brawf Technoleg Gofod yng Ngogledd Cymru a bydd Gŵyl y Gelli ym Mhowys, sy’n agos at galon llawer o bobl, yn cael £500,000.

O ganlyniad i ddatganiadau penodol ar gyfer Lloegr yn Natganiad yr Hydref, mae £305 miliwn ychwanegol ganlyniadol i Lywodraeth Cymru yn sgil fformiwla Barnett a hynny ar ben y grant bloc mwyaf erioed i’w wario ar gyfrifoldebau datganoledig.  Er yr honiadau i’r gwrthwyneb, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei chyllido yn dda iawn ac ar hyn o bryd yn cael dros 20% yn fwy o gyllid y pen o gymharu â’r hyn mae llywodraeth y DU yn ei wario mewn mannau eraill o’r DU.

Yn ogystal bu i Ysgrifennydd Cymru edrych yn ôl ar rai o’r digwyddiadau arwyddocaol yng Nghymru a’r DU yn ystod 2023.

Dywedodd:

Roedd hi’n achlysur o falchder cael mynychu coroni Brenin Siarl III a’r Frenhines Camilla ym mis Mai a bod yn bresennol mewn digwyddiad mor arwyddocaol i’r wlad.  Mae gan y Brenin newydd gysylltiad-maith a pherthynas gref efo Cymru a gwn y bydd y cysylltiadau rhwng y Teulu Brenhinol â phobl Cymru yn parhau i gryfhau.

Yn ogystal fe fydd Cymru yn cael Prif Weinidog newydd yn 2024 ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio’n adeiladol efo olynydd Mark Drakeford.

Wrth edrych ymlaen at 2024 ychwanegodd Mr Davies y gallai Cymru edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd yn llawn gobaith.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru:

Mae’r Prif Weinidog a minnau yn benderfynol o wneud yr oll sydd yn ein gallu i sicrhau bod ffyniant Cymru yn dal i wella a bod ei photensial yn cael ei gwireddu. 

Eleni rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at weld ein Hardaloedd Buddsoddi a’n Porthladdoedd Rhydd yn cael eu sefydlu a dod yn weithredol ynghyd â chwblhau nifer o’r buddsoddiadau ffyniant bro yr ydym wedi eu gwneud ymhob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Roedd yn bwysig eithriadol y llynedd bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu i sicrhau bod y gwaith dur ym Mhort Talbot yn parhau trwy roi pecyn gwerth £500 miliwn i Tata Steel a byddaf yn parhau yn fy rôl fel cadeirydd y Bwrdd Pontio £100 miliwn trwy gydol 2024.

Yn olaf, ac ar ôl hir ymaros, gwelsom dîm pêl droed Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd a gobeithiaf weld y tîm yn chwarae yn yr Almaen y flwyddyn nesaf yn Ewro 2024 yn dilyn eu llwyddiant ysgubol yn nhwrnament 2016.

Rwyf yn sicr bod blwyddyn lewyrchus arall o’n blaenau yng Nghymru ac rwyf yn edrych ymlaen unwaith eto i drafaelio ledled y wlad i weld sut y mae buddsoddiad Llywodraeth y DU yn gweithio o fewn ein cymunedau.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 29 December 2023