Ysgrifennydd Cymru yn croesawu’r cyfle i adnewyddu’r berthynas rhwng Caerdydd a San Steffan
Heddiw, a hithau’n annerch y Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth Aelodau’r Cynulliad…
Heddiw, a hithau’n annerch y Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth Aelodau’r Cynulliad fod y cyfnod newydd hwn mewn gwleidyddiaeth yn San Steffan yn gyfle i adnewyddu’r berthynas rhwng Caerdydd a San Steffan.
Roedd Mrs Gillan yn ymweld a’r Senedd i roi adroddiad i Aelodau’r Cynulliad am Araith y Frenhines. Dywedodd: “Mae gwleidyddiaeth San Steffan yn dechrau ar gyfnod newydd. Mae gennym fath newydd o lywodraeth sy’n arwain math newydd o wleidyddiaeth, lle mae buddiannau cenedlaethol yn cael blaenoriaeth dros fuddiannau pleidiau, a lle mae agweddau aeddfed sy’n rhoi pwyslais ar gydweithio a chyfaddawdu yn arwyddion o gryfder, nid o wendid.
“Nawr, gyda’r newid yn strwythur y llywodraeth, mae’n gyfle i adnewyddu’r berthynas rhwng Caerdydd a San Steffan, gyda phedair plaid wleidyddol yng Nghymru yn rhan o lywodraeth. Wrth gwrs, mae llywodraeth glymblaid yn rhywbeth sydd wedi hen ennill ei blwyf yng ngwleidyddiaeth Cymru, felly gallwn ni yn San Steffan ddysgu llawer o brofiadau Cymru drwy edrych ar y Cynulliad.”
Dywedodd Mrs Gillan wrth Aelodau’r Cynulliad fod y Prif Weinidog wedi dweud yn glir y dylai perthynas y Llywodraeth hon gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yn seiliedig ar sylfaen gadarn o barch at ein gilydd.
Dywedodd: “Rwy’n edrych ymlaen at wneud fy rhan yn yr agenda newydd hon sy’n rhoi bri ar gydweithredu a brwdfrydedd, a gobeithiaf y bydd holl Aelodau’r Siambr hon yn gwneud yr un fath. Rwy’n credu mai gwleidyddiaeth adeiladol y mae pobl am ei gweld, yn hytrach na gwleidyddiaeth ddinistriol.”
Dywedodd Mrs Gillan fod Rhaglen Ddeddfwriaethol Gyntaf y Llywodraeth glymblaid, fel y’i cyhoeddwyd yn Araith y Frenhines, yn seiliedig ar dair egwyddor allweddol, sef rhyddid, tegwch a chyfrifoldeb, ac yn gosod rhaglen eang sy’n cynnwys ugain o Fesurau newydd.
Newid cyfansoddiadol, gan gynnwys yr ymrwymiad i gynnal refferendwm ar bwerau ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol, a lleihau’r diffyg ariannol, oedd dwy brif elfen y rhaglen ddeddfwriaethol.
Ychwanegodd: “Wrth i’r Rhaglen ddeddfwriaethol fynd rhagddi, gadewch i mi sicrhau pawb yma heddiw fod datganoli yn elfen hollbwysig o broses llunio polisiau’r Llywodraeth glymblaid. Rydym yn parchu datganoli. Rhaid i holl adrannau’r Llywodraeth roi ystyriaeth i ddatganoli wrth roi polisiau’r Llywodraeth ar waith. Felly mae fy nrws ar agor bob amser i unrhyw Aelod o’r Cynulliad sydd am drafod rhaglen y Llywodraeth glymblaid, a’r modd y byddwn yn ei rhoi ar waith yng Nghymru. Mae’r tim sy’n gweithio yn fy Swyddfa, er yn fach, yn benderfynol, ac yn gweithio dros Gymru yn Whitehall.”