Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru: Estyniad Heathrow’

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn cynnal trafodaethau ynghylch Heathrow.

Alun Cairns

Alun Cairns

Ddydd Mawrth 25ain Hydref, bu Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn croesawu arbenigwyr o’r sector awyrofod i Dŷ Gwydyr yn Llundain i ddathlu llwyddiant y sector ac i drafod cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Cynhaliwyd y digwyddiad yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau ar gyfer rhedfa newydd yn Heathrow.

Bydd datblygu Heathrow yn cysylltu’r DU yn well â chyrchfannau pell mewn marchnadoedd y byd sy’n tyfu, gan roi hwb i fasnach a chreu swyddi.

Gan fod rhai o gwmnïau awyrofod mwyaf y byd wedi ymgartrefu yng Nghymru, mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd newydd i bobl Cymru.

Ar hyn o bryd, mae tua 14,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector awyrofod yng Nghymru, ac os bydd y rhedfa newydd yn creu 77,000 o swyddi ychwanegol dros y 14 mlynedd nesaf yn ôl y disgwyl, mae’n debyg y bydd y ffigur hwn yn cynyddu.

Gyda’r cyhoeddiad diweddar ynghylch rhedfa newydd yn Heathrow, mae’n sicr y bydd dyfodol i’r diwydiant awyrofod yng Nghymru. Caiff hyn ei ategu gan yr wyth prifysgol yng Nghymru lle mae cyfoeth o arbenigedd academaidd yn canolbwyntio ar y diwydiant awyrofod, gan gysylltu â’i gilydd i gynnig arbenigedd a hyfforddiant diguro.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf wrth fy modd gyda’r cyhoeddiad y bydd rhedfa newydd yn cael ei chreu yn Heathrow. Bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith hynod gadarnhaol ar fusnesau yng Nghymru gyda mynediad at farchnadoedd a masnach newydd.

Gall canolfan yn Llundain ddarparu nifer o gysylltiadau i gyrchfannau rhyngwladol bob dydd.

Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru a fydd yn ei galluogi i ehangu ei gorwelion drwy fwy o gysylltedd a sicrhau bod Cymru yn agored i fusnes.

Cyhoeddwyd ar 25 October 2016