Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Ehangu Heathrow yw’r peth gorau i Gymru

Alun Cairns i roi prif araith yn Uwchgynhadledd Busnes Heathrow

Nawr yw’r amser i Gymru achub ar y cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag ehangu Heathrow a dangos i’r byd bod Prydain yn agored i fusnes.

Dyma fydd y galwad clir gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ystod ei brif araith i gynulleidfa o fusnesau bach a chanolig Cymru yng Nghaerdydd heddiw (5 Gorffennaf).

Cyhoeddwyd dewis leoliad Llywodraeth y DU ar gyfer ehangu’r maes awyr ym mis Hydref y llynedd, sy’n arwydd o’i hymrwymiad i gefnogi prosiectau seilwaith ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Bydd rhedfa newydd yn gwella cysylltiad y DU ei hun ac, yn allweddol, yn hybu cysylltiadau Cymru â gweddill y byd, gan gefnogi allforio, masnachu a chyfleoedd swyddi.

Gan siarad yn Uwchgynhadledd Busnes Heathrow yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd Alun Cairns yn galw ar Gymru i fod “yn ganolog” i’r gwaith o gyflawni’r prosiect £16 biliwn.

Bydd yn dweud “Bod y ffaith bod y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn agos at Heathrow yn golygu y byddwn yn gallu gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd masnachol sy’n gysylltiedig â’r buddsoddiad hwn”. Bydd yn ychwanegu “ei bod yn hynod bwysig ein bod yn cefnogi prosiectau o’r fath er mwyn cryfhau economi Cymru”.

Mae busnesau bach a chanolig eisoes yn chwarae rhan allweddol yng nghadwyn gyflenwi Heathrow - gyda’r maes awyr yn gwario dros £1.5 biliwn y flwyddyn gyda mwy na 1,200 o gyflenwyr o bob cwr o’r DU - ac mae eu rôl ar fin tyfu yn sgil yr ehangu.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i fusnesau yng Nghymru lunio perthnasau mwy sefydlog a chreu cysylltiadau newydd â rhai o gyflenwyr mwyaf y DU y gellid manteisio arnynt hefyd ar gyfer gwaith arall y tu hwnt i brosiect ehangu Heathrow.

Ychwanegodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

FO’r ymrwymiad i ddileu Tollau Pont Hafren i adeiladu Carchar Berwyn yn Wrecsam, mae Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i agor y sianeli cymorth seilwaith i hybu economi Cymru. Drwy gefnogi’r gwaith o adeiladu rhedfa newydd yn Heathrow, rydyn ni’n cyfleu neges glir i’r byd bod Prydain gyfan yn agored i fusnes.

Mae cadwyn gyflenwi’r maes awyr yng Nghaerdydd yn mynd o nerth i nerth heddiw, yn barod i adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau â busnesau yng Nghymru.

Rydw i’n hyderus na fydd Cymru yn siomi. Ehangu Maes Awyr Heathrow yw’r peth gorau i gwmnïau yng Nghymru, i deithwyr yng Nghymru ac i’n cymunedau. Gadewch i ni fanteisio’n llwyr ar y cyfleoedd sydd ar droed yn sgil y prosiect cyffrous yma.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn achub ar y cyfle i danlinellu pa mor bwysig ydyw i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru “gydweithio i fynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf i fusnesau yng Nghymru” ac mai dim ond drwy “gydweithredu y gallwn ddatblygu ein cyfle i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Heathrow. Mae’r broses honno’n dechrau heddiw”.

Cyhoeddwyd ar 5 July 2017