Ysgrifennydd Cymru yn canmol allforwyr bwyd a diod Cymru wrth iddo ddechrau ar ei daith o amgylch Asia
[](http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/files/2013/03/Secretary-of-State-at-Food-is-GREAT-reception.jpg) Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru…

Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dechrau ei daith deg diwrnod o hyd o amgylch Gogledd a De Ddwyrain Asia drwy gyfarfod gyda chynrychiolwyr sy’n chwifio’r faner dros ddiwydiant bwyd a diod Cymru yn Japan.
Cyfarfu Mr Jones a chynrychiolwyr o Fragdy Felinfoel, Wisgi Penderyn, dwr Tŷ Nant a Wendy Brandon Handmade Preserves yn Llysgenhadaeth Prydain yn Tokyo i dynnu sylw at sut gall cwmniau bwyd a diod Prydain, yn fawr ac yn fach, dyfu eu busnes drwy edrych ar gyfleoedd allforio.
Yn 2012, roedd y Prif Weinidog wedi lansio Food is GREAT Britain i ddathlu’r gorau o fwyd Prydain gartref a thramor. Mae nawr yn rhan allweddol o’r ymgyrch Britain is GREAT i ddenu busnesau ac ymwelwyr i Brydain.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae bwyd Prydain yn hysbys ym mhedwar ban byd yn barod am ei ansawdd, ac roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gwrdd a chynrychiolwyr cynhyrchwyr bwyd a diod o Brydain sy’n hyrwyddo cynnyrch Prydeinig dramor.
“Gall y sector bwyd a diod ddod yn beiriant enfawr ar gyfer twf yn y DU, ac mae’n hanfodol ein bod yn darparu’r lefel iawn o gefnogaeth i fusnesau gartref, yn ogystal a helpu cynhyrchwyr bwyd ym Mhrydain i ddatgloi eu potensial mewn marchnadoedd tramor.”
Yn gynharach y mis hwn, roedd Tokyo wedi cynnal y 38ain Foodex Japan 2013, sioe bwyd a diod ryngwladol uchaf ei pharch Asia sy’n gwasanaethu marchnad bwyd gwerth $700 biliwn Japan a nifer o farchnadoedd proffidiol eraill yn Asia. Mae cynhyrchwyr ym Mhrydain yn cael eu hannog i fynd i mewn i farchnadoedd sy’n datblygu ac achub ar y cyfle i gynyddu elw.
Roedd Wendy Brandon Handmade Preserves o sir Benfro yn un o’r cwmniau Prydeinig a oedd yn arddangos yn y sioe fasnach.
Wrth siarad am ei phrofiad o fasnachu ym marchnadoedd Japan, dywedodd Wendy:
“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r farchnad hon. Mae fy nghwsmeriaid yn frwdfrydig iawn am fy nghynnyrch - yn enwedig y marmaledau. Rwyf wedi gallu teithio i Japan fy hun i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd blasu, ac rwyf yn gweld bod cwsmeriaid yn hoffi rhoi wyneb i’r enw ac mae’n gyfle i mi roi adborth personol.
“Byddaf yn ceisio manteisio ar y diddordeb ychwanegol sydd wedi cael ei greu yn dilyn arddangosfa wythnos diwethaf ac rwyf yn awyddus i ddatblygu fy sylfaen cwsmeriaid yn Asia.”
Mae Distyllfa Penderyn y Cwmni Wisgi Cymreig, wrth odre Bannau Brycheiniog, wedi sefydlu ei hun fel gwir atyniad i dwristiaid yng Nghymru, yn ogystal a fel un o allforion busnes mwyaf llwyddiannus y wlad.
Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddodd gynlluniau i osod distyllyron wisgi ychwanegol er mwyn i’r cwmni allu cynhyrchu mwy a thargedu marchnadoedd rhyngwladol newydd.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wisgi Penderyn, Stephen Davies:
“Rydym yn falch iawn o allu arddangos ein brandiau oherwydd bod datblygu marchnadoedd allforio newydd ar gyfer Brag Sengl Penderyn yn rhan allweddol o strategaeth barhaus y ddistyllfa ac mae Japan yn un o’n prif farchnadoedd targed oherwydd cysylltiad y wlad a wisgi brag sengl premiwm”
Mae Bragdy Felinfoel yn Llanelli hefyd yn edrych ar feithrin cysylltiadau newydd ym marchnad Japan.
Dywedodd Philip Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Bragdy Felinfoel:
“Mae Bragdy Felinfoel wedi bod yn allforio amrywiaeth o gwrw i Tokyo ers dros dair blynedd. Roedd yr arddangosfa FOODEX yn gyfle delfrydol i ni godi proffil ac arddangos ein cwrw yn Japan. Mae’n ymddangos bod y farchnad yn gwerthfawrogi traddodiad, ansawdd a phecynnu arloesol. Felinfoel yw’r bragdy hynaf yng Nghymru ac mae mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Bydd yr adborth gan gwsmeriaid yn yr arddangosfa yn allweddol i ddatblygu ein strategaeth farchnata wrth symud ymlaen.”
Nodiadau i Olygyddion
- Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld a Japan, Ynysoedd y Philippines, Fietnam a Hong Kong fel rhan o ymweliad masnach a buddsoddi 1 diwrnod o hyd ag Asia (13 - 23 Mawrth)
- Ar ran y Prif Weinidog, bydd ei ymrwymiadau’n cefnogi’r ymgyrch GREAT Britain, yn hyrwyddo’r DU fel gwlad sy’n ‘agored i fusnes’, yn meithrin partneriaethau buddsoddi strategol yn y marchnadoedd sy’n datblygu ac yn annog myfyrwyr o Asia i astudio yma.