Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn canmol y cysylltiadau busnes â Hong Kong wrth i’w daith ag Asia ddirwyn i ben

Mae’r berthynas o fasnach a buddsoddiad rhwng y DU a Hong Kong yn dal i fynd o nerth i nerth, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, heddiw wrth iddo dynnu sylw at y cyfleoedd i fusnesau Prydain i wneud eu marc ar y farchnad ryngwladol bwysig.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Mr Jones wedi cwblhau ei daith ag Asia yn Hong Kong, lle cynhaliodd gyfres o ddigwyddiadau gyda phobl fusnes a buddsoddwyr i hyrwyddo buddiannau buddsoddi yng Nghymru a’r DU drwyddi draw.

Fel rhan o’r ymgyrch Business is GREAT, cyfarfu Mr Jones ag uwch gynrychiolwyr o ddiwydiannau gwasanaeth a buddsoddi er mwyn trafod cyfleoedd yng Nghymru yn ystod brecwast busnes a drefnwyd gan Gymdeithas Dewi Sant Hong Kong.

Yn ystod yr ymweliad achubodd Mr Jones ar y cyfle i friffio grŵp dethol o fewn-fuddsoddwyr a’r Is-ysgrifennydd dros Wasanaethau Ariannol ar y cyhoeddiadau allweddol a wnaed gan Ganghellor y Trysorlys yn araith y Gyllideb yn gynharach wythnos yma.

Cynhaliodd drafodaethau gyda British Airways a chwmni awyrennau Cathay Pacific a’r cwmni telathrebu yn Hong Kong, PCCW Solutions.

Yn ogystal â chwrdd â chynrychiolwyr gwahanol o addysg uwch Hong Kong i drafod cydweithrediad a chyfleoedd cyfnewid ar gyfer astudio gyda sefydliadau yn y DU, roedd Mr Nick Strong o Brifysgol Aberystwyth a Mr Robert Yeung o Gymdeithas Alumni Prifysgol Caerdydd gydag ef.

Dywedodd Mr Jones: “Mae economi agored Prydain sy’n canolbwyntio ar fusnes yn fagnet i gwmnïau tramor ac mae’r DU yn denu mwy o fewnfuddsoddiad nag unrhyw le arall yn Ewrop. Dyna pam roeddwn wrth fy modd yn cael cwrdd â chynrychiolwyr busnes yn Hong Kong i danlinellu’r ffaith bod Prydain yn agored ar gyfer busnes – a’i bod yn lle da i wneud busnes.”

Cryfder diwydiannau bwyd a diod a manwerthu’r DU oedd ffocws ymweliadau diweddarach. Bu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â’r Great Supermarket yn Pacific Place, un o ganghennau Harvey Nichols i amlygu’r cyfleoedd allforio manwerthu i frandiau o’r DU.

Trafododd hefyd frwdfrydedd defnyddwyr Hong Kong am gig oen o Gymru yn ystod cyfarfod gyda Romeo Alfonso o Sutherland Company – sy’n dosbarthu cig oen Cymru.

Dywedodd Dai Davies, Cadeirydd Hybu Cig Cymru: “Mae Hong Kong yn farchnad bwysig i gig oen Cymru ac mae wedi bod ers nifer o flynyddoedd, gan helpu i roi hwb i’w enw da yn y Dwyrain Pell fel cynnyrch premiwm. Mae Hybu Cig Cymru yn credu y bydd enw da gwych cig oen Cymru ymysg pobl Hong Kong yn helpu i agor marchnad ehangach Tsieina i’n cynnyrch sydd gyda’r gorau yn y byd, gan roi hwb i economi Cymru yn y broses. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weld cig eidion Cymru ar fyrddau bwyd Hong Kong yn y dyfodol agos.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Mae Hong Kong yn bartner busnes mawr i’r DU a dyma’r ganolfan fwyaf ar gyfer busnes Prydeinig yn Asia. Fodd bynnag, mae’r holl ddinasoedd yr ymwelais â nhw’r wythnos yma yn cynnig cyfleoedd mawr i fusnesau Cymru. Mae’r cysylltiadau sydd rhyngom eisoes yn rhai cryf iawn ond mae’r daith fasnach hon wedi rhoi’r cyfle i ni feithrin ac adeiladu ar y perthnasau hynny.”

Dywedodd Cyfarwyddwyr Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, Robert Lloyd Griffiths: “Bydd y daith fasnach hon yn helpu i agor drysau i fusnesau Cymru sy’n chwilio am gyfleoedd i dyfu a ffynnu mewn marchnadoedd rhyngwladol.

“Mae gan Gymru fusnesau ffantastig sydd wedi cael cryn lwyddiant drwy fynd â’u cynnyrch o amgylch y byd. Gobeithiaf y byddant yn ysbrydoli eraill ac y bydd y daith fasnach hon yn helpu i feithrin cysylltiadau newydd y gall busnesau Cymru fanteisio arnynt yn y dyfodol.”

Yn ystod yr ymweliad, bu Mr Jones hefyd yn seremoni agoriadol twrnamaint Rygbi Saith Bob Ochr Hong Kong, lle cafodd gyfle i gwrdd â’r tîm a’r côr meibion o Gymru.

Cyhoeddwyd ar 25 March 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 April 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.