Ysgrifennydd Cymru yn llongyfarch Toyota am 20 mlynedd o weithgynhyrchu yng Nghymru
Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi llongyfarch Toyota Manufacturing UK am 20 mlynedd o gynhyrchu injans yn eu ffatri …

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi llongyfarch Toyota Manufacturing UK am 20 mlynedd o gynhyrchu injans yn eu ffatri yng Nglannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru.
Wrth wneud sylw am y garreg filltir bwysig hon, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:
“Ers pan ddechreuodd y gwaith yn y ffatri yng Nglannau Dyfrdwy ugain mlynedd yn ol, mae Toyota wedi chwarae rhan hanfodol yn helpu i ddangos pam fod Cymru’n dal i fod yn rhywle delfrydol i fuddsoddi a rhedeg busnes yno.
“Mae presenoldeb Toyota yng Ngogledd Cymru a’r hyder y mae wedi’i feithrin ymhlith ei weithlu a’r gadwyn gyflenwi, wedi arwain at greu swyddi cynaliadwy, cymunedau cadarnach, a dull gweithredu ecogyfeillgar tuag at gynhyrchu ceir. Mae llwyddiant y cwmni yn brawf o sgiliau gwych, gwaith caled a phroffesiynoldeb y gweithlu yma, ac yn ddi-os, maen nhw wedi helpu i greu sylfaen gadarn y dylen ni ddal ati i adeiladu arni.
“Gweithgynhyrchu, arloesi ac allforion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer twf economaidd yng Nghymru a ledled y DU. Mae ymrwymiad Toyota i’r DU yn dangos cryfder cynyddol ein diwydiant ceir ac mae’n allweddol o ran ysgogi twf y sector preifat. Rwy’n llongyfarch Toyota ar y garreg filltir hynod hon, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cwmni’n ffynnu ymhellach yn y dyfodol.”