Ysgrifennydd Cymru’n canu clodydd y cydweithredu rhwng cymunedau busnes ac academaidd
Mae’r rhai sydd yn y rownd derfynol eleni, gyda siawns o gipio prif wobrau Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn eu 14eg seremoni wobrwyo…
Mae’r rhai sydd yn y rownd derfynol eleni, gyda siawns o gipio prif wobrau Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn eu 14eg seremoni wobrwyo, yn dangos gwir rinweddau’r cydweithredu llwyddiannus rhwng y cymunedau busnes ac academaidd, yn ol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan.
Roedd Mrs Gillan wrth law i gyflwyno categori’r Wobr Effaith Ranbarthol yn y seremoni arbennig i anrhydeddu’r enghreifftiau mwyaf cyffrous ac arloesol o fusnesau’n cydweithio.
Wrth annerch y gynulleidfa a oedd wedi ymgynnull ar gyfer y seremoni yn y brifddinas, llongyfarchodd Mrs Gillan y cwmniau sydd wedi dod yn fwy cystadleuol, wedi dangos twf ac wedi ehangu i farchnadoedd tramor drwy gydweithio’n agos a Phrifysgol Caerdydd.
Dywedodd:
“Mae hon yn noson i ddathlu ac yn gyfle perffaith i dynnu sylw at y rol bwysig y gall y byd academaidd ei chwarae mewn cefnogi diwydiant yng Nghymru.
“Mae arloesi’n allweddol i fusnes llwyddiannus ac mae’n golygu cymaint mwy na dim ond datblygu cynnyrch newydd - mae hefyd yn ymwneud a chydnabod y manteision sydd i’w cael o gydweithio’n agos ag eraill.
“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r goreuon ymhlith y partneriaethau a arweiniodd at arloesi sy’n gallu cyfrannu’n sylweddol at ein nod ni o gryfhau’r economi yng Nghymru.
“Hoffwn longyfarch enillwyr y gwobrau ar eu cyflawniadau, a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.”
Yn ystod y seremoni hefyd, tynnodd Mrs Gillan sylw at eiriau cefnogol cyn Ysgrifennydd Cymru a’r Ysgrifennydd Tramor presennol, William Hague, a lansiodd y rhwydwaith arloesedd yn wreiddiol yn 1996.
Dywedodd: “Rydw i’n falch o weld y rhwydwaith wedi tyfu cymaint ers ei lansio a bellach mae ganddo tua 200 o aelodau - mae hyn yn brawf o gryfder y rhanbarth wrth arloesi ac o rol Prifysgol Caerdydd yn sbarduno hynny yn ei flaen.
“Mae’r rhwydwaith a’r gwobrau heddiw’n cynrychioli arferion rhagorol o ran dod a busnesau lleol at ei gilydd a’r arbenigedd sydd i’w ganfod ymhlith y gymuned academaidd. Ymhen pedair blynedd ar ddeg fy ngobaith i ydi ein bod ni’n dathlu rhagor o lwyddiant sydd wedi’i greu o ganlyniad i gyflawniadau Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd.”