Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cymeradwyo’r cysylltiadau addysgol ‘nodedig’ rhwng Prydain a Gwlad Thai

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi ymweld a’r Cyngor Prydeinig yn Bangkok i ddysgu mwy am y cysylltiadau addysgol rhwng Prydain…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi ymweld a’r Cyngor Prydeinig yn Bangkok i ddysgu mwy am y cysylltiadau addysgol rhwng Prydain a Gwlad Thai.

Mae Mrs Gillan ar daith pum diwrnod o amgylch De Ddwyrain Asia i hyrwyddo masnach, twristiaeth a chysylltiadau llywodraethol, a chafodd gyfarfod a staff a myfyrwyr yn un o bedair o ganolfannau’r Cyngor Prydeinig ym mhrif ddinas Gwlad Thai.

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Gwlad Thai, sefydliadau addysg a phroffesiynol, a diwydiant ar amrywiaeth o brosiectau, sy’n cynnwys gwella safon dysgu Saesneg mewn ysgolion a phrosiectau ar y cyd rhwng Gwlad Thai a’r DU ym maes datblygu ymchwil.

Yn ystod ei hymweliad, cymerodd yr Ysgrifennydd Gwladol ran mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r myfyrwyr a oedd yn astudio Saesneg. Hefyd, cafodd gyfarfod tri o bobl leol o Wlad Thai a oedd yn astudio yn y brifysgol yng Nghaerdydd.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae gan y Cyngor Prydeinig gysylltiad hir a nodedig gyda Gwlad Thai ac mae’n parhau i hyrwyddo cysylltiadau addysgol a diwydiannol cryf rhwng y ddwy wlad.

“Yn ystod fy ymweliad, fe wnaeth creadigrwydd, y rhaglenni dysgu a hyfforddi sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor a brwdfrydedd ac ymrwymiad y myfyrwyr a’r staff gryn argraff arna i.”

Dywedodd Chris Gibson, cyfarwyddwr y Cyngor Prydeinig yn Bangkok:

“Rydyn ni wrth ein bodd cael y cyfle hwn i ddangos beth rydyn ni’n ei wneud i gryfhau’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Gwlad Thai a’r DU drwy ein gwaith ym maes Addysg, y Diwydiannau Creadigol a’r Iaith Saesneg; gan gefnogi diwygiadau uchelgeisiol Gwlad Thai yn barod ar gyfer 2015 a sefydlu cymuned economaidd ASEAN.

“Mae ein rhwydwaith cryf o dros 6,000 o gynfyfyrwyr o Wlad Thai yn darparu cyfleoedd gwych i’r DU yn ddiwylliannol ac yn fasnachol, er mwyn datblygu’r cysylltiad gwych hwn ymhellach, ac roeddwn i’n falch iawn bod y Gweinidog wedi gallu cyfarfod a rhai o’r cynfyfyrwyr hyn a siarad a nhw’n bersonol.”

Cyhoeddwyd ar 15 May 2012