Ysgrifennydd Cymru ar y Bît yn Wrecsam
Heddiw [dydd Gwener 27 Awst], mae Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar y bit gyda’r heddlu yn Wrecsam er mwyn cael gwybod rhagor…
Heddiw [dydd Gwener 27 Awst], mae Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar y bit gyda’r heddlu yn Wrecsam er mwyn cael gwybod rhagor am y materion sy’n wynebu heddweision ar y rheng flaen.
Ymunodd Mrs Gillan a’r Uwch-arolygydd Dros Dro Dave Owens, yng nghanol tref Wrecsam nos Wener, lle bu hefyd yn sgwrsio a’r rheini sydd a thrwyddedau tafarndai a chlybiau, bownsars, a phobl a oedd allan am ddiod.
Yn ddiweddarach, cyfarfu’r Ysgrifennydd Gwladol a Gareth Pritchard, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, a buont yn trafod amryw o faterion sy’n effeithio ar yr heddlu, gan gynnwys biwrocratiaeth, deddfau trwyddedu, a chyllid yr heddlu.
Meddai Mrs Gillan: “Roedd yn braf cael cyfle i fod ar y rheng flaen gyda’r heddlu lleol yn Wrecsam. Cefais gipolwg ar y problemau y maent yn eu hwynebu, yn ogystal a’u llwyddiannau wrth gadw’r gymuned yn ddiogel.
“Wrth fynd ar y bit yn Wrecsam a sgwrsio a’r heddweision, rwy’n cael cyfle ymarferol i gael gwybod rhagor am y materion sy’n achosi pryder iddynt ac y gall y llywodraeth fynd i’r afael a hwy. Roeddwn wedi fy mhlesio’n arw a’r ymroddiad, y proffesiynoldeb a’r gwyleidd-dra a ddangoswyd gan yr heddweision sy’n peryglu eu bywydau bob dydd er mwyn sicrhau cyfraith a threfn.”