Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: General Dynamics UK yn arloesi yn EDGE®

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, heddiw (12 Tachwedd 2012) yn gweld a’i lygaid ei hun sut mae cysylltiadau arloesol cwmni amddiffyn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, heddiw (12 Tachwedd 2012) yn gweld a’i lygaid ei hun sut mae cysylltiadau arloesol cwmni amddiffyn a diogelwch gyda’r byd busnes a’r byd academaidd wedi arwain at greu canolfan gwbl arloesol ar gyfer y diwydiant uwch-dechnoleg yn ne Cymru.

Bydd Mr Jones yn ymweld a chanolfan ymchwil a datblygu General Dynamics UK yn Nhrecelyn, sef EDGE UK®, lle caiff weld sut mae’r cwmni’n gweithio gyda BBaCh, y byd academaidd, a’r llywodraeth i ddatblygu’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer cwsmeriaid domestig a rhyngwladol.

Yma bydd yn mynd o amgylch labordai niferus y cyfleuster ac yn cwrdd a chynrychiolwyr o BBaCh sydd ar hyn o bryd yn gweithio gydag EDGE UK® i ddatblygu potensial masnachol eu dyfeisiadau yn y sector amddiffyn a’r sector diogelwch.

Caiff hefyd glywed am gysylltiadau ymchwil a datblygu’r cwmni gyda phrifysgolion lleol, gan gynnwys Caerdydd a Morgannwg, a chyfle i gwrdd a’r gweithwyr sy’n dod i law drwy gyfrwng cynllun datblygu graddedigion y cwmni.

Mae General Dynamics UK - sy’n cefnogi oddeutu 800 o swyddi yn ei safleoedd yn Oakdale a Threcelyn yn ne Cymru, ac oddeutu 1.600 ledled y DU - yn rheoli nifer o gadwyni cyflenwi mawr ar gyfer ei raglenni amddiffyn a diogelwch, ac mae’n datblygu’r Cerbyd Brwydro Arfog (AFV) mwyaf modern yn y byd - y Cerbyd Arbenigol (SV) - ar gyfer Byddin Prydain.

Bu’r rhaglen SV, a gyflenwir o gyfleuster y Cwmni yn Oakdale yn ne Cymru, yn destun astudiaeth gan Ernst & Young yn 2011 ac fe wnaethant amcangyfrif y bydd hon ar ei phen ei hun yn cefnogi oddeutu 485 o swyddi hyfedr ac yn cefnogi 775 o swyddi pellach yn uniongyrchol ar draws cadwyn gyflenwi ddomestig y cwmni a’r economi ehangach.

Gan siarad cyn mynd ar yr ymweliad, meddai Mr Jones:

“Mae’n bendant yn amser cyffrous i fod yn gweithio yn General Dynamics UK. Mae’r gweithgaredd y mae’r cwmni yn eu cefnogi yn EDGE® UK yn dangos yn glir bod busnesau Prydain yn parhau i arloesi er mwyn bodloni eu cwsmeriaid gartref a thramor. Mae’r ffaith bod graddedigion ifanc yn chwarae rol mor allweddol yn yr ymdrech hon yn destament i’r cyfoeth o ddoniau a sgiliau sydd gennym ymysg ein pobl ifanc yng Nghymru.

“Ers deng mlynedd, bu General Dynamics UK yn gyfrifol am roi Cymru ar y rheng flaen wrth iddo gefnogi anghenion amddiffyn a diogelwch ein gwlad.

“Mae’r contract i ddatblygu’r Cerbyd Brwydro Arfog (AFV) diweddaraf newydd i Fyddin Prydain yn rhoi i’w raddedigion y cyfle i wneud eu marc ar brosiectau pwysig dros ben.

“Mae’r diwydiant amddiffyn a diogelwch yn parhau i fod yn hanfodol i gyflwr economi Cymru. Fel un o gyflenwyr allweddol y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae General Dynamics UK yn sicrhau y gall ef, a’i weithlu sgilgar, barhau i chwarae eu rhan i ddarparu amddiffyniad a chefnogaeth heb eu hail i’r unigolion dewr sy’n gweithio mewn amrywiol sefyllfaoedd rheng flaen o amgylch y byd.”

Meddai Islywydd General Dynamics UK, Mark Douglas:

“Rwyf wrth fy modd bod yr Ysgrifennydd Gwladol, David Jones, yn gallu ymweld a gweld drosto’i hun yr atebion arloesol y mae General Dynamics UK yn eu cyflenwi i’n cwsmeriaid yma yn y DU, ac ym mhob cwr o’r byd, o gymoedd Cymru. 

“Rhoddwn lawer o bwyslais ar gefnogi egin ddoniau, boed hynny drwy gyfrwng ein cynllun recriwtio graddedigion neu drwy gyfrwng gwaith EDGE UK. Bu ein Cynllun Datblygu Graddedigion yn rhedeg yn llwyddiannus ers blynyddoedd lawer, ac rydym ni’n falch o hyd o safon uchel yr ymgeiswyr sy’n ymgeisio ac yn ymuno a’n cynllun. Mae’r cyfoeth o raddedigion dawnus a ddaw o brifysgolion Cymru, yn benodol, yn wir heb eu hail.

“Rydym ni’n gweithio’n galed i sicrhau ein bod bob amser yn gallu bodloni anghenion tymor byr a hirdymor ein cwsmeriaid. Drwy gefnogi BBaCh drwy gyfrwng EDGE UK®, rydym yn helpu i sicrhau nad oes cynhyrchion hanfodol ac arloesol yn diflannu, a drwy wireddu eu potensial masnachol, gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cwsmeriaid ni a’u cwsmeriaid hwythau.

“Gyda datblygiad SV a rhaglenni eraill arweiniol byd-eang, edrychwn ymlaen at ddyfodol disglair i General Dynamics UK.”

Cyhoeddwyd ar 12 November 2012