Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Mae Farnborough yn fforwm gwerthfawr ar gyfer y sector awyrennau Cymreig”

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn cyfarfod prif arweinwyr y diwydiant awyrennau byd-eang ac yn hyrwyddo cryfder a sgiliau arloesol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn cyfarfod prif arweinwyr y diwydiant awyrennau byd-eang ac yn hyrwyddo cryfder a sgiliau arloesol Cymru yn Sioe Awyr Ryngwladol Farnborough (FIA) heddiw (13 Gorffennaf 2012).

Mae’r sioe awyr - sydd bellach yn 64 oed - yn un o brif ddigwyddiadau awyrennau’r byd ac yn gyfle i arddangos peirianneg a thechnoleg Prydain.

Bydd amserlen Ysgrifennydd Cymru yn canolbwyntio ar ymweld a chwmniau sydd a chysylltiadau Cymreig cryf, gan gynnwys Airbus a Rolls Royce. Bu Mrs Gillan yn ymweld a phencadlys Airbus yn Toulouse ym mis Mai ac wrth fynd o gwmpas Llinell Gydosod Derfynol yr A380 bu’n canmol gweithwyr Cymru am eu cyfraniad i lwyddiant y cwmni. Bu hefyd gyda’r Prif Weinidog yn agoriad ffatri adennydd £400m ar Safle Airbus ym Mrychdyn Gogledd Cymru fis Hydref diwethaf.

Mae’r cwmni yn cefnogi ac yn cynnal 6,000 o swyddi yng Nghymru, ac ar ‘Ddiwrnod y Dyfodol’ ddydd Gwener yn Farnborough, fe fydd yn cynnal cynhadledd fechan gyda’r bwriad o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beiriannwyr a chynllunwyr awyrennau.

Bydd Mrs Gillan hefyd, ar y cyd a’r Prif Swyddog Gweithredol, yn cyflwyno chwech ysgoloriaeth gwobr Techmasters EADS UK i fyfyrwyr Prydeinig sydd a chysylltiad uniongyrchol gyda’r diwydiant awyrofod neu’r diwydiant amddiffyn.

Yn dilyn ei hymweliad diplomataidd a masnach diweddar a De Ddwyrain Asia, bydd Mrs Gillan hefyd yn ymweld a chalet Rolls Royce a TIMET UK yn y Sioe Awyr.

Mae ffatri TIMET yn Abertawe yn gynhyrchydd integredig blaenllaw o gynnyrch titaniwm tawdd a chynnyrch melin. Maent yn cyflenwi’r deunydd crai i gwmni yn y DU o’r enw Callender, sydd, yn ei dro, yn cyflenwi’r deunyddiau wedi’u paratoi i Rolls Royce yn y DU ac i’w ffatri llafn ffan ar Gampws Seletar yn Singapor. Fe fu’r Ysgrifennydd Gwladol yno ym mis Mai.

Yna fe fydd yn ymweld a Raytheon UK, General Dynamics UK, Prifysgol Caerdydd a nifer o fusnesau bychain a chanolig sydd oll yn cael y cyfle unigryw i ymddangos o flaen prynwyr, peiriannwyr a chwsmeriaid awyrofod y byd.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae Sioe Awyr Farnborough yn rhoi’r platfform byd-eang ar gyfer hufen y diwydiant ym Mhrydain ac yn rhoi llwyfan rhyngwladol i’r sector awyrennau Cymreig.

“Mae amrediad yr arbenigedd sydd yng Nghymru yn anhygoel ac mae’n hynod o braf eu gweld yn gwneud yn dda ar y llwyfan byd-eang. Oherwydd arloesedd a sgiliau’r gweithlu o fewn y cwmniau hyn mae Cymru wedi ennill enw da o fewn y grŵp dethol hwn.

“Ar Ddiwrnod y Dyfodol, mae’n bleser gennyf hefyd weld ymrwymiad y cwmniau hyn i feithrin sgiliau’r dyfodol ar gyfer y diwydiant awyrennau. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gynnig cyfleoedd gwirioneddol i bobl ifanc ddatblygu sgiliau sy’n atyniadol i gyflogwyr y sector preifat, a chynnal statws Cymru fel chwaraewr allweddol yn y diwydiant pwysig hwn.”

Nodiadau i Olygyddion:

 • Am Farnborough International Cyf Mae Farnborough International Cyf (FIL) yn is-gwmni i ADS, sefydliad masnach y DU sy’n datblygu diwydiannau Awyrofod, Amddiffyn a Diogelwch. Mae gan FIL dair elfen fel trefnydd Sioe Awyr Rhyngwladol Farnborough, cyfrifoldeb am Leoliad a Digwyddiadau Rhyngwladol Farnborough (FIVE) ac ymgynghorydd rhyngwladol ar gyfer digwyddiadau sifil, amddiffyn a busnes e.e. India Aviation and Bahrain International Airshow (BIAS)

• Fe fu’r Ysgrifennydd Gwladol ar ymweliad pum niwrnod a De Ddwyrain Asia o 14-18 Mai 2012. Hi oedd y Gweinidog Cabinet cyntaf i ymweld a Gwlad Thai lle bu’n dyst i arwyddo cytundeb $10miliwn rhwng Trysorlys Gwlad Thai a’r Mint Cenedlaethol. Bu hefyd mewn digwyddiad rhwydweithio busnes VisitBritain. Fe wnaeth hi hefyd ymweld a Chanolfan Ddysgu’r Cyngor Prydeinig, Pencadlys Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Gwlad Thai a Chymdeithas Dewi Sant yn Bangkok.

• Yna aeth i Gambodia i gyhoeddi y bydd Masnach a Buddsoddi’r DU (UKTI) yn ailagor eu swyddfa yn ninas Phnom Penh yn y Llysgenhadaeth Prydeinig. Cyfarfu hefyd gyda’r Prif Weinidog Hun Sen a’i Ardderchogrwydd Cham Prasidh, Uwch Weinidog a Gweinidog Masnach, gan ymweld a Quantum Clothing (Cambodia) Cyf, y cwmni Prydeinig mwyaf yng ngwlad Cambodia, lle agorwyd trydedd ffatri ddillad y cwmni yn swyddogol ganddi.

• Daeth ei hymweliad a De Ddwyrain Asia i ben yn Siganpor lle bu Mrs Gillan ar ymweliad a Champws Seletar Rolls Royce, sy’n cyflenwi’r rhan fwyaf o’r peiriannau awyrennau masnachol, gyda’r prif gydrannau yn dod o gyflenwyr yng Nghymru. Yn ystod ei hymweliad, cyfarfu Mrs Gillan hefyd gydag Aelodau Seneddol Singapor, aelodau Cymdeithas Dewi Sant a chynrychiolwyr cwmniau Cymreig sydd a phresenoldeb amlwg yn Singapor.

• Am ragor o wybodaeth am waith Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda’r diwydiant awyrennau ewch i www.walesoffice.gsi.gov.uk/news

Cyhoeddwyd ar 13 July 2012