Ysgrifennydd Gwladol yn ‘falch’ o’r arwyddion o newid
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi rhoi croeso gofalus i’r ffigyrau cyflogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru. Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd…
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi rhoi croeso gofalus i’r ffigyrau cyflogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru.
Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd y bore yma gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod 1.357m o bobl yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, 33,000 yn fwy nag yn yr un chwarter y llynedd. Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra wedi gostwng rhywfaint ers y chwarter diwethaf, yn ogystal a gostyngiad bychan, ond sydd i’w groesawu, yn nifer y bobl ifanc sy’n hawlio budd-dal diweithdra ers y mis diwethaf.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:
“Rwy’n falch o weld bod y ffigyrau wedi gwella rhywfaint, er mae llawer i’w wneud eto. Mae lefelau diweithdra Cymru yn annerbyniol o uchel.
“Mae ffigyrau’r mis yma ar gyfer diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc yn dangos bod angen i Lywodraethau’r DU a Chymru gydlynu eu hymdrechion economaidd yn well. Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i greu’r amgylchedd iawn i’r sector preifat allu tyfu a chreu swyddi. Rydw i bob amser wedi bod yn glir mai nid llywodraethau sy’n creu swyddi, ond busnesau.
“Mae yna rol i’r Llywodraeth, serch hynny, o ran sicrhau prosiectau seilwaith ar raddfa fawr, er enghraifft Wylfa, a dyna pam y mae hynny ar frig fy agenda i. Bydd adeiladu gorsaf bŵer newydd yn arwain at gyfleoedd hollbwysig - yn swyddi adeiladu dros dro yn ogystal a gwaith yn y tymor hwy sy’n gofyn am lawer o sgiliau - i un o’r ardaloedd sy’n wynebu’r her economaidd fwyaf yn y wlad.
“Mae yna lawer mwy i’w wneud yn gyffredinol wrth gwrs, a dyna pam y mae’r Llywodraeth yn gwneud popeth i wneud pethau’n haws i fusnesau; rydyn ni’n gwneud treth yn deg ac yn gystadleuol; rydyn ni’n cael gwared ar y fiwrocratiaeth ddiangen, y mae busnesau bychan wedi dweud wrthyn ni sy’n eu hatal rhag creu swyddi newydd; ac rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod buddsoddiadau’n cael eu gwneud mewn seilwaith hanfodol drwy Gynllun Gwarantau’r DU.
“Mae hyn i gyd yn helpu i wneud Cymru yn lle da i fuddsoddi a thyfu busnes.”
NODIADAU I OLYGYDDION: ****
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a thim cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 020 7270 1362
I gael rhagor o wybodaeth am ddatganiad Trysorlys Ei Mawrhydi ynghylch Seilwaith: http://www.hmtreasury.gov.uk/press_77_12.htm
I gael rhagor o wybodaeth am ddatganiad yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ynghylch biwrocratiaeth - rheoliadau Iechyd a Diogelwch: http://news.bis.gov.uk/Press-Releases/Government-red-tape-blitz-to-boost-business-growth-67fc9.aspx