Ysgrifennydd Cymru yn trafod posibiliadau allforio Cig Oen Cymru i Tsiena
Heddiw cyhoeddodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, y gallai Tsiena godi ei gwaharddiad ar gig oen Cymru cyn hir, gan agor marchnad newydd …
Heddiw cyhoeddodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, y gallai Tsiena godi ei gwaharddiad ar gig oen Cymru cyn hir, gan agor marchnad newydd bosibl o dros un biliwn o gwsmeriaid ar gyfer ffermwyr Cymru.
A hithau’n Westai Gwadd mewn derbyniad yn Llysgenhadaeth Tsiena yn Llundain neithiwr i ddathlu 61 mlynedd ers Sefydlu Gweriniaeth Pobl Tsiena, gwahoddwyd Mrs Gillan gan y Llysgennad a’r Cynghorydd Weinidog Economaidd a Masnachol i drafod yn ffurfiol y mater o godi’r gwaharddiad ar Gig Oen Cymru.
Meddai Mrs Gillan: “Ymatebais yn gadarnhaol i’r cais hwn gan y Tsieiniaid ynghylch mewnforio Cig Oen Cymru, a byddaf yn parhau i drafod hyn a’r cyfleoedd Mewnfuddsoddi ehangach gyda Llysgenhadaeth Tsiena a’r Ysgrifennydd Tramor.
“Mae’r posibiliadau sydd ynghlwm wrth allforio Cig Oen Cymru yn hynod gyffrous. Mae Cig Oen Cymru yn gynnyrch o’r radd flaenaf, ac rwy’n siŵr y bydd pobl Tsiena wrth eu boddau ag ef”.