Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn trafod mewnfudo ar ôl gadael yr UE mewn digwyddiad rhithiol

Amlinellodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y newidiadau i'r system mewnfudo a fisa ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio

EU and UK Flag

Cynhaliodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart ei gyfres ddiweddaraf o ddigwyddiadau i siarad yn uniongyrchol â busnesau a phobl Cymru cyn diwedd y cyfnod Pontio’r UE.

Yn ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol yn y digwyddiad rhithiol a gynhaliwyd ar ddydd Iau (19 Tachwedd) oedd y Gweinidog dros Ffiniau’r Dyfodol a Mewnfudo, Kevin Foster AS i drafod y newidiadau i’r system mewnfudo a fisas.

Mae’r DU bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a bydd rheolau newydd yn dod i fusnesau a dinasyddion ar 1 Ionawr 2021.

Pwysleisiodd Mr Hart yn ystod y gweminar fod holl ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2021 yn gymwys i gyflwyno cais ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE a bod ganddynt tan 30 Mehefin 2021 i gyflwyno cais.

Hefyd yn ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog Foster oedd Robert Lloyd Griffiths o IOD Cymru a gadeiriodd y drafodaeth yn ogystal â swyddogion o’r Swyddfa Gartref a roddodd drosolwg o System Fewnfudo’r Dyfodol ar ôl diwedd y cyfnod Pontio gyda chyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Ein man cychwyn yw chwilio am resymau i roi statws i’r bobl sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yma. Rydym yn deall yr effaith mae Pontio’r UE wedi ei gael ar unigolion a theuluoedd. Dyna pam mae Llywodraeth yr UE wedi sicrhau mai’r broses i ddinasyddion sydd gyda statws preswylydd neu statws preswylydd cyn-sefydlog fydd y byddent yn gallu parhau i fyw a gweithio yma yn ogystal â chael mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chofrestru am addysg ar ôl diwedd y cyfnod pontio.

P’un ai eich bod yn weithiwr crefftus, yn ymwelydd i Gymru neu yn fyfyriwr sy’n awyddus i astudio yma, mae Llywodraeth y DU yn gweithio i symleiddio’r system fewnfudo.

Dywedodd Y Gweinidog dros Ffiniau’r Dyfodol a Mewnfudo, Kevin Foster:

Ro’n i wrth fy modd o dderbyn gwahoddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i siarad yn ddigwyddiad rhagorol hwn a gafodd ei sefydlu i sicrhau bod busnesau ledled Cymru yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Rhannwyd llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol a gofynnwyd rhai cwestiynau rhagorol gan y gynulleidfa frwd.

Bydd llwybrau mewnfudo ar agor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach eleni i’r sawl sy’n dymuno dod i’r DU o 1 Ionawr 2021. Agorodd y llwybrau cyntaf, y llwybrau i fyfyrwyr a’r myfyrwyr sy’n blant ar 5 Hydref.

Mae dinasyddion yr UE a’i teuluoedd sy’n byw yn y DU cyn diwedd y cyfnod pontio yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mehefin 2021.

System fewnfudo newydd: beth sydd angen i chi ei wybod:

System fewnfudo sy’n seiliedig ar bwyntiau yn y DU: cyflogwyr a dinasyddion yr UE

Cyflogi pobl o’r tu allan i’r DU o 1 Ionawr 2021

Cyhoeddwyd ar 23 November 2020