Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ‘siomedig’ o glywed cyhoeddiad Tata Steel i gau’r uned ‘Living Solutions’ yn Shotton

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi mynegi ei siom o glywed y cyhoeddiad y bydd Tata Steel yn dod a’i fusnes Living Solutions…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi mynegi ei siom o glywed y cyhoeddiad y bydd Tata Steel yn dod a’i fusnes Living Solutions yn Shotton, Glannau Dyfrdwy, i ben.

Meddai Mrs Gillan: “Rwy’n siomedig iawn o glywed y cyhoeddiad hwn, a bydd yn ergyd aruthrol i’r gweithlu ac i economi leol Glannau Dyfrdwy.

“Cefais wybod am y penderfyniad yn gynharach heddiw gan Uday Chaturvedi, Prif Swyddog Technegol Tata Steel Ewrop. Dywedodd wrthyf fod rheolwyr Tata Steel wedi ystyried pob opsiwn i gael y busnes yn ol ar ei draed cyn gwneud y penderfyniad anodd hwn. Ond yn y pen draw, yn sgil prinder archebion am yr adeiladau modiwlar nid oedd yn bosibl i ni barhau i gynhyrchu.

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Rwyf wedi cael fy sicrhau y bydd yr holl weithwyr sy’n wynebu colli eu swydd yn cael cynnig adleoli pan fo hynny’n bosibl, neu’n cael cyfle i wella eu sgiliau i’w helpu i ddod o hyd i swyddi newydd. Ni fydd cau Living Solutions yn effeithio ar unrhyw fusnesau eraill Tata Steel yng Nghymru, a bydd yn parhau’n gwmni uchel ei broffil sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr at economi Cymru.”

Cyhoeddwyd ar 12 October 2010