Ysgrifennydd Cymru: “Mae DevOpsGuys yn arwain y ffordd yn y gwaith o weddnewid byd digidol yng Nghymru”
Alun Cairns yn cefnogi agor pencadlys newydd busnes technoleg yng Nghaerdydd

Ar 18 Hydref, bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns yn cefnogi agor pencadlys newydd busnes technoleg DevOpsGuys yng Nghaerdydd. Sefydlwyd y cwmni datblygu meddalwedd yn 2013, ac erbyn hyn mae’n cyflogi mwy na 85 o bobl yn ei swyddfeydd yn Llundain a Chaerdydd.
Nod y cwmni yw darparu atebion ymarferol ym maes ymgynghoriaeth a pheirianneg TG i gleientiaid gan gynnwys BAE Systems, Vodafone, gocompare.com yn ogystal ag amrywiol adrannau Llywodraeth y DU.
Mae’r cwmni’n cyfrannu mwy na £14m i’r economi leol drwy fuddsoddi yn y gymuned dechnoleg a chreu perthynas gadarn gyda phrifysgolion drwy gynlluniau interniaeth a chynlluniau i raddedigion.
Bydd y swyddfa newydd ar Heol y Brodyr Llwydion yn y brifddinas.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r sector technoleg ar draws Cymru a’r DU yn tyfu’n gyflym, ac mae cwmnïau fel DevOpsGuys yn gwneud yn siŵr bod gwybodaeth yn y maes hwn yn aros yn yr ardal leol.
Rwy’n falch bod DevOpsGuys wedi ffynnu a’u bod yn mynd i’r afael â’r heriau yn y gwaith trawsnewid digidol, ac yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant hollbwysig i interniaid a graddedigion, gan gryfhau’r economi leol.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymroi i fuddsoddi mewn seilwaith digidol, sydd wedi bod yn rhwystr i dwf economaidd ledled Cymru yn rhy hir. Rwy’n falch o weld cynnydd yn yr arian ar gyfer ymchwil a datblygu – £2 biliwn yn fwy y flwyddyn erbyn 2020/21. Bydd hyn yn helpu Cymru i adeiladu ar ei chryfderau yn y maes hwn a gwneud yr economi yn fwy arloesol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.