Datganiad i'r wasg

David Jones Ysgrifennydd Cymru yn croesawu Llysgennad Sweden ar ymweliad â Chymru

David Jones a Nicola Clase i ymweld â chwmnïau yng Nghymru sy'n ehangu i farchnadoedd tramor.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Visit to Swansea University Bay Campus

Visiting Swansea University Bay Campus L to R: Vice Chancellor Prof. Richard B. Davies, Swedish Ambassador Ms Nicola Clase, Secretary of State for Wales David Jones MP and Pro Vice -Chancellor Prof. Iwan Davies

Bydd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn croesawu Nicola Clase, Llysgennad Sweden i’r DU yr wythnos hon, wrth iddo ymweld â chwmnïau yng Nghymru sy’n ehangu i farchnadoedd tramor.

Ddydd Iau 26 Mehefin, byddant yn ymweld â’r canlynol:

  • “The Safety Letterbox Company” yng Nghastell-nedd, y prif weithgynhyrchwr blychau llythyrau yn y DU. Mae’r cwmni’n dylunio, yn gweithgynhyrchu ac yn cyflenwi blychau llythyrau ledled y DU, Iwerddon ac yn fyd-eang.

  • Prifysgol Abertawe i weld y gwaith sy’n mynd rhagddo i drawsnewid Campws y Bae fel rhan o’r rhaglen datblygu gwerth £450m. Byddant hefyd yn gweld sut mae gwyddonwyr yng Ngholeg Meddygaeth y Brifysgol yn gweithio gyda chydweithwyr yn Athrofa Karolinska yn Stockholm ym maes ymchwil a datblygu’r gwyddorau bywyd.

Ddydd Gwener 27 Mehefin, byddant yn ymweld â’r canlynol:

  • Cwmni cludiant Stena Line Group, sy’n eiddo i deulu o Sweden, ym mhorthladd Caergybi ar Ynys Môn.

  • Halen Môn, cwmni bach o Gymru sydd wedi ehangu ymhell y tu hwnt i’w gynefin yng nghegin y teulu i ddod yn frand a gydnabyddir yn fyd-eang yn y sector bwyd a diod.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n galonogol iawn gweld cwmnïau fel y rhai rydyn ni’n ymweld â nhw yr wythnos hon yn gweithio mor llwyddiannus i ryngwladoli eu busnesau.

Mae Llywodraeth y DU yn achub ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru dramor, gan ddefnyddio Masnach a Buddsoddi y DU, ein rhwydwaith helaeth o lysgenadaethau, swyddfeydd is-gennad ac uchel gomisiynau ledled y byd, i ddangos ein bod ni’n agored iawn i fusnes. A ninnau ag ychydig dros ddeufis i aros hyd nes caiff Uwchgynhadledd NATO ei chynnal yng Nghasnewydd, rhaid inni achub ar y cyfleoedd ychwanegol sydd gan ein hallforwyr o’r radd flaenaf yng Nghymru i fanteisio i’r eithaf ar ein hamser ar y llwyfan rhyngwladol.

Dywedodd Nicola Clase, Llysgennad Sweden i’r Deyrnas Unedig:

Mae buddsoddiadau gan Sweden yn creu 100,000 o swyddi yn y DU ac mae tua 5,000 o’r rheini yng Nghymru. Mae nifer o gwmnïau o Sweden yn troi at Gymru am gyfleoedd busnes ar y cyd ac mae’n bleser gen i brofi drosof fy hun rywfaint o’r creadigrwydd sy’n eu denu nhw i Gymru. Rwyf wrth fy modd yn dysgu am y cysylltiadau gwyddonol niferus rhwng Prifysgolion yn Sweden ac yng Nghymru ac yn gweld y gwaith ardderchog y mae Stena Line yn ei wneud o ran cysylltu pobl ar y naill ochr i Fôr Iwerddon.

Mae gan y DU a Sweden economïau agored sy’n seiliedig ar fasnach. Mae’r ymweliad hwn yn dangos bod cydweithio rhwng ein gwledydd i hyrwyddo mwy o fasnach a buddsoddiad yn bwysig. Byddwn yn parhau i feithrin y berthynas dda sydd eisoes yn bodoli.

Daw’r ymweliad yn sgil cyhoeddi Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth Llywodraeth y DU, sydd wedi’i gynllunio i greu cyfleoedd newydd i fusnesau bach arloesi, cystadlu, tyfu ac allforio.

Nodiadau i olygyddion

Mae’r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflgoaeth yn cwmpasu nifer o fesurau sy’n cynnwys:

  • Cael gwared ar fiwrocratiaeth, defnyddio technolegau newydd i gyflymu’r prosesau bancio
  • Cynyddu’r gefnogaeth gan UK Export Finance i helpu busnesau bach i ennill eu plwyf o safbwynt allforio
  • Gwelliannau i helpu cwmnïau bach gyda chontractau caffael cyhoeddus – marchnad gwerth £230 biliwn
  • Caiff Dyfarnwr a Chod Tafarnau eu cyflwyno ynghyd â chamau i sicrhau bod cyflogwyr yn talu cyflogau teg o dan gytundebau isafswm cyflog cenedlaethol
  • Gwella enw da y DU fel lle teg a dibynadwy i gynnal busnes drwy sicrhau bod mwy o dryloywder ynghylch pwy sy’n berchen ar gwmnïau yn y DU ac yn eu rheoli
  • Helpu i atal a chosbi’r rheini sy’n cuddio eu buddiant mewn cwmnïau yn y DU er mwyn hwyluso gweithgareddau anghyfreithlon neu sydd fel arall yn methu â chyrraedd safonau ymddygiad disgwyliedig
Cyhoeddwyd ar 26 June 2014