Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol yn llongyfarch y Cymry sydd wedi derbyn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2019

Cyhoeddi rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae’r anrhydeddau hyn yn cydnabod a dathlu gwaith caled a chyflawniadau pobl anhygoel sy’n mynd tu hwnt i’r arfer i roi eraill cyn eu hunain.

O’r enwau cyfarwydd i’r rhai sy’n gwasanaethu eu cymunedau’n dawel fel Reynette Roberts a Leon Gardiner, yr wyf yn falch o weld pobl o bob cefndir yng Nghymru yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad at eu hachos.

Yr wyf yn wirioneddol ddiolchgar am eu hymroddiad i’w cymunedau ac yn diolch iddynt am eu gwaith diflino i wella bywydau pobl eraill yn ogystal â’u gallu rhyfeddol i ysbrydoli pobl ledled y wlad. Llongyfarchiadau i chi i gyd.

Cyhoeddwyd ar 28 December 2018