Ysgrifennydd Cymru Yn Llongyfarch Aelodau Cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi llongyfarch Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru am gael eu penodi i Gabinet newydd …
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi llongyfarch Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru am gael eu penodi i Gabinet newydd Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mrs Gillan ei bod yn edrych ymlaen at weithio’n adeiladol gyda Phrif Weinidog Cymru a’i Gabinet newydd er budd pobl Cymru.
Dywedodd Mrs Gillan: “Hoffwn longyfarch holl Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gael eu penodi i’r Cabinet. Er bod gan Lywodraeth y Cynulliad rhagor o bwerau bellach i gymryd penderfyniadau yn y meysydd datganoledig, mae llawer o feysydd o hyd lle gallwn weithio gyda’n gilydd er budd pobl Cymru.
“Mae economi Cymru yn wynebu llawer o sialensau ac mae perthynas waith agos rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hanfodol. Rwy’n awyddus i weithio’n agos gyda Carwyn Jones ac Edwina Hart i sicrhau nad yw Cymru yn colli cyfle i fanteisio ar rai o’r mentrau pwysig rydym yn eu darparu dros y ffin yn Lloegr. Yn yr un modd, byddaf yn cefnogi eu penderfyniadau ar faterion datganoledig os credaf y byddant o fudd i Gymru.
“Bydd yn bwysig hefyd ein bod yn parhau i gydweithio ar feysydd eraill o ddiddordeb cyffredin, megis cyllid, polisi ynni, gweithio tuag at economi carbon isel, materion iechyd trawsffiniol a sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau angenrheidiol i gael cyflogaeth. Edrychaf ymlaen at weithio’n adeiladol gyda Carwyn Jones a’i Gabinet newydd, yn seiliedig ar barch rhwng y ddwy ochr, er mwyn cael y fargen orau i Gymru”.