Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn llongyfarch ennillydd gwobr Entrepreneur Asiaidd y Flwyddyn

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi llongyfarch Shazia Awan ar ol iddi ennill gwobr Entrepreneur Asiaidd y Flwyddyn y DU mewn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cheryl Gillan gyda Shazia Awan, ennillydd gwobr Entrepreneur Asiaidd y FlwyddynMae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi llongyfarch Shazia Awan ar ol iddi ennill gwobr Entrepreneur Asiaidd y Flwyddyn y DU mewn seremoni fawreddog yn Llundain neithiwr.

Cafodd Shazia ei geni a’i haddysgu yn Ne Cymru. Lai na blwyddyn yn ol, aeth ati i sefydlu’r cwmni Peachy Pink, sef cwmni sy’n arbenigo mewn dillad isaf sy’n mynd i’r afael a seliwleit ar gyfer menywod. Mae’r brand yn cael ei werthu mewn siopau Debenhams ar hyd a lled y DU, ac roedd wedi gwerthu allan yn llwyr o fewn wythnos iddo gael ei lansio. Does dim un brand dillad isaf arall yn y siop wedi gadael y silffoedd mor gyflym. Yn ddiweddar, mae Shazia wedi ehangu ei busnes i nifer o farchnadoedd yn Asia ac yn Ewrop.

Meddai Mrs Gillan, a aeth gyda Shazia i’r seremoni wobrwyo yng ngwesty’r Hilton, Park Lane, Llundain: “A hwythau’n cael eu cynnal am yr unfed flwyddyn ar ddeg eleni, mae Gwobrau Llwyddiannau Menywod Asiaidd yn rhoi llwyfan i’r talentau gorau un yn y gymuned Asiaidd. Rwy’n falch iawn bod gwaith caled a sgiliau entrepreneuraidd Shazia wedi cael eu cydnabod yn y gwobrau nodedig hyn.  Mae gennym gyfoeth o dalent yng Nghymru ac mae Shazia wir wedi rhoi Cymru ar y map.

“Erbyn hyn, mae menywod Asiaidd ymhlith y mwyaf dylanwadol mewn bywyd cyhoeddus ym Mhrydain, ac mae’r gwobrau hyn yn ffordd bwysig o ysbrydoli ac annog eraill i gyflawni eu potensial. Fel un o’r pedwar o aelodau benywaidd yn y Cabinet, gwn pa mor bwysig yw cydnabod llwyddiannau a chyfraniadau menywod ym mhob agwedd o fywyd. Llongyfarchiadau i Shazia, a phob dymuniad da iddi yn y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 20 May 2010