Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn Llongyfarch Tîm Cymru

Wrth i Gemau’r Gymanwlad ddirwyn i ben heddiw yn Delhi, mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi llongyfarch Tim Cymru ar eu llwyddiant…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wrth i Gemau’r Gymanwlad ddirwyn i ben heddiw yn Delhi, mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi llongyfarch Tim Cymru ar eu llwyddiant yn y Gemau.

Yn ystod y Gemau, enillodd Tim Cymru 19 medal - dwy aur, saith arian a 10 efydd, gan orffen yn 15fed yn y tabl medalau. Bu dros 170 o athletwyr o Gymru yn cymryd rhan mewn 15 camp yn ystod y Gemau, a ddechreuodd ar 3 Hydref.

Wrth longyfarch yr athletwyr, dywedodd Mrs Gillan:  “Mae Cymru wedi cystadlu yn erbyn y goreuon yn y Gymanwlad, ac wedi gwneud yn arbennig o dda. Mae’r Gemau wedi rhoi’r cyfle i ni gystadlu fel Tim Cymru, ac mae’n braf eu gweld yn dod adref gyda chynifer o fedalau.

“Rwy’n siŵr y bydd Cymru gyfan yn ymuno a mi i’w llongyfarch ar eu llwyddiant, ac yn gwneud yn siŵr y byddant yn cael croeso cynnes ar ol dychwelyd i Gymru.”

Cyhoeddwyd ar 14 October 2010