Ysgrifennydd Cymru yn llongyfarch enillwyr gwobrau Fast Growth 50
Heno, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi llongyfarch enillwyr gwobrau Fast Growth 50. Wrth siarad yn y seremoni wobrwyo yng …
Heno, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi llongyfarch enillwyr gwobrau Fast Growth 50.
Wrth siarad yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Jones:
“Roedd yn bleser cael mynd i’r seremoni wobrwyo heno, a hoffwn longyfarch pob un o’r enillwyr ar eu cyflawniadau. Rydych chi’n llwyr haeddu eich gwobrau.
“Mae hwn wedi dod yn ddigwyddiad pwysig ar galendr busnesau yng Nghymu, ac mae’n faromedr o gryfder economi Cymru. Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni wneud popeth i ysgogi twf, helpu busnesau drwy greu’r amodau cywir i gwmniau a busnesau fuddsoddi a darparu swyddi. Ers i mi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru, rwyf wedi dweud yn glir y byddaf i’n rhoi blaenoriaeth i wneud yn siŵr bod fy adran yn canolbwyntio ar economi Cymru a bod yn llais cryf ar gyfer Cymru.
“Mae pob un o’r cwmniau Fast Growth 50 yn cyfrannu’n sylweddol i’r nod a rennir a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw yn y blynyddoedd i ddod.”