Ysgrifennydd Cymru yn llongyfarch Carwyn Jones wrth iddo ddychwelyd i fod yn Brif Weinidog Cymru
Mae Cheryl Gillan Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi llongyfarch Carwyn Jones wrth iddo ddychwelyd i fod yn Brif Weinidog Cymru. Dywedodd Mrs …
Mae Cheryl Gillan Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi llongyfarch Carwyn Jones wrth iddo ddychwelyd i fod yn Brif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mrs Gillan: “Hoffwn longyfarch Carwyn Jones yn wresog wrth iddo ddychwelyd i fod yn Brif Weinidog Cymru. Gweithiais yn adeiladol gydag ef cyn yr etholiad ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i wneud hynny er budd gorau pobl Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol.
“Mae trefniadau ar y gweill er mwyn i ni gwrdd maes o law i drafod y blaenoriaethau sydd gennym dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth newydd y Cynulliad yn cydweithio, gan ganolbwyntio’n benodol ar gryfhau economi Cymru a gwneud Cymru yn lle atyniadol ar gyfer buddsoddi a chreu swyddi.
“Ni ddylai’r ffaith bod gwahanol bleidiau yn llywodraethu yn Llundain ac yng Nghaerdydd fod yn rhwystr rhag cael perthynas weithio dda. Rwy’n credu mai’r ffordd orau o wasanaethu Cymru yw drwy gydweithredu adeiladol ac aeddfed, yn rhydd rhag gwleidyddiaeth bleidiol.”