Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn llongyfarch derbynwyr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2024

Mae dwsinau o bobl ledled Cymru wedi cael eu cydnabod gan Ei Fawrhydi Y Brenin.

New Year's Honours 2024

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, wedi llongyfarch y derbynwyr o Gymru ar Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin.

Ymhlith dwsinau o dderbynwyr o Gymru roedd y gantores Dame Shirley Bassey, menywod busnes Amanda Blanc a Joanna Swash a llawer mwy o bobl sy’n derbyn anrhydeddau am wasanaethau yn y gymuned gan gynnwys arweinydd Guide Sir Benfro, Wendy Barnett (BEM), yr ymgyrchydd diogelwch dŵr Debbie Turnbull (MBE) ac aelod sefydlol Côr Meibion Mynwy Huw Edwards (MBE).

Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Rwy’n cael fy ysbrydoli gan y nifer fawr o bobl ysbrydoledig ledled Cymru sydd wedi cael eu cydnabod yn haeddiannol ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Mae’n wych gweld pobl o ystod mor eang o gefndiroedd yn cael eu cydnabod, gan gynnwys gwasanaethau i fusnes, gwaith cymunedol, diwylliant, elusen neu iechyd.

Mae clywed am waith rhyfeddol ac amhrisiadwy cymaint o bobl ledled Cymru yn ysbrydoledig - rwy’n llongyfarch yr holl dderbynwyr sy’n cael eu hanrhydeddu ac yn diolch i bawb am eu cyfraniad.

Cyhoeddwyd ar 29 December 2023