Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cadarnhau cais gan y Comisiwn Silk am fwy o amser

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyhoeddi heddiw bod y Comisiwn Datganoli yng Nghymru wedi cael mwy o amser i gwblhau ei waith. Lansiwyd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyhoeddi heddiw bod y Comisiwn Datganoli yng Nghymru wedi cael mwy o amser i gwblhau ei waith.

Lansiwyd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, a elwir yn ‘Gomisiwn Silk’, gan Ysgrifennydd Cymru ym mis Hydref 2011 gyda’r dasg o adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol cyfredol yng Nghymru.

Daeth y cais am fwy o amser gan y Cadeirydd, Paul Silk.

Bydd y Comisiwn yn gwneud ei gwaith mewn dwy ran.

Mae’r rhan gyntaf yn edrych ar atebolrwydd cyllidol y Cynulliad, a cheir gwybod beth yw’r casgliadau hynny yn ystod hydref 2012.

Bydd yr ail ran yn edrych ar bwerau’r Cynulliad ac yn argymell addasiadau i’r trefniant cyfansoddiadol cyfredol. Bydd y Comisiwn yn awr yn cyhoeddi’r casgliadau hyn erbyn gwanwyn 2014, yn hytrach nag yn 2013 gan olygu y bydd yn gallu ystyried setliad datganoli Cymru yn drylwyr.

Mewn datganiad ysgrifenedig gan y gweinidog, dywedodd Mrs Gillan:

“Rhoddais wybod i’r Tŷ ar 11 Hydref 2011 y byddai’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru yn gwneud ei waith mewn dwy ran: yn Rhan 1, sydd ar waith ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn yn ystyried datganoli pwerau ariannol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac os felly, pa feysydd y gellid eu cynnwys. Mae’r Comisiwn wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu adrodd am ei gasgliadau ar Ran 1 ddiwedd hydref 2012.

“Bydd Rhan II y Comisiwn yn ystyried pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol ac yn ystyried a ddylid argymell unrhyw addasiadau a allai, ym marn y Comisiwn, wella’r trefniadau cyfredol. Mae’r Comisiwn wedi gofyn am estyniad ar ddyddiad cyflwyno’i adroddiad ar ei argymhellion mewn perthynas a Rhan II. Rwyf wedi cytuno i’r cais hwn a bydd y Comisiwn felly yn cyhoeddi casgliadau Rhan II erbyn gwanwyn 2014, yn hytrach nag yn 2013, gan olygu y bydd modd iddo roi ystyriaeth fwy trylwyr i’r setliad datganoli yng Nghymru.”

Cyhoeddwyd ar 8 March 2012