Stori newyddion

Sylwadau Ysgrifennydd Cymru ynghylch colli swyddi yng ngweithfeydd dur Tata

Stephen Crabb: “Mae'r diswyddiadau arfaethedig hyn yn ergyd ddifrifol i gymuned Port Talbot a'r economi leol”

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r diswyddiadau arfaethedig hyn yn ergyd ddifrifol i gymuned Port Talbot a’r economi leol. Mae gweithwyr yn y gweithfeydd a’u teuluoedd yn wynebu amser pryderus dros ben, a’n blaenoriaeth yw helpu’r rheini y bydd hyn yn debygol o effeithio arnynt.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i wneud ei gorau i gefnogi’r diwydiant dur sydd o dan bwysau anhygoel yn sgil mewnforio dur rhad a gwasgfa mewn prisiau ledled y byd. Mae hyn yn golygu gweithio gyda Tata i sicrhau bod ganddynt bresenoldeb sylweddol o hyd yn ne Cymru.

Cyhoeddwyd ar 18 January 2016