Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud sylw ar y Prosiect Ad-drefnu Hyfforddiant Amddiffyn

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymateb i gyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn ar Brosiect Ad-drefnu Hyfforddiant Amddiffyn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymateb i gyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn ar Brosiect Ad-drefnu Hyfforddiant Amddiffyn.

Dywedodd Mrs Gillan: “Dim ond iawn oedd i’r Llywodraeth hon gyflawni adolygiad o gontract a fu inni ei hetifeddu gan y weinyddiaeth flaenorol.  Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ei gwneud yn glir nad oedd Metrix yn gallu darparu cynnig a oedd yn fforddiadwy ac yn fasnachol gadarn o fewn cyfnod penodedig. 

“Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cydnabod mae hyfforddiant technegol cyfunol, ar gyn lleied o safleoedd a phosib, sy’n parhau i fod y datrysiad gorau i’n Lluoedd Arfog, ac mai’r gobaith yw i sefydlu ein datrysiad hyfforddiant amddiffyn yn Sain Tathan.

“Mae wedi bod yn angenrheidiol i’r Llywodraeth hon ddiweddu caffaeliad presennol Prosiect Ad-drefnu Hyfforddiant Amddiffyn a Metrix fel y Cynigydd a Ffefrir.

“Fodd bynnag, mae dyfodol da i Sain Tathan.  Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn adolygu ei gofyniadau hyfforddi ac ystadau, ac mae wedi cadarnhau ei bod yn gobeithio lleoli’r cyfleuster hyfforddi yn Sain Tathan.  Yn y cyfamser, byddaf yn cydweithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac yn parhau i gymell yr achos dros Sain Tathan.”

Cyhoeddwyd ar 19 October 2010