Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn canmol cyfraniad y Lluoedd Arfog yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws yng Nghymru

Mae Simon Hart wedi diolch i bersonél y Lluoedd Arfog am eu cymorth yng Nghymru yn ystod yr ymateb parhaus i COVID-19.

Personnel from Joint Military Command Wales units working at testing sites in Brecon and Llandrindod Wells to support Powys Teaching Health Board.

Personnel from Joint Military Command Wales units working at testing sites in Brecon and Llandrindod Wells to support Powys Teaching Health Board.

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi ysgrifennu at bennaeth y Fyddin yng Nghymru i ddiolch iddo am y cymorth mae Lluoedd Arfog y DU wedi’i ddarparu ledled y wlad fel rhan o’r frwydr barhaus yn erbyn y coronafeirws.

Ysgrifennodd Simon Hart AS at y Brigadydd Andrew Dawes CBE, Cadlywydd 160fed Brigâd (Cymru) yr wythnos hon i ganmol y Lluoedd Arfog am eu gwaith i fynd i’r afael â’r pandemig. Mae milwyr amser llawn a milwyr wrth gefn wedi cael eu lleoli mewn amryw o rolau ledled Cymru ar gais yr awdurdodau dinesig, er mwyn cefnogi gwahanol elfennau o’r ymateb i argyfwng y coronafeirws.

Mae eu dyletswyddau wedi cynnwys gyrru a diheintio ambiwlansys ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), adeiladu gwelyau yn Ysbyty Calon y Ddraig, a rhoi cyngor a chymorth i GIG Cymru ddosbarthu cyfarpar diogelu personol (PPE) i staff rheng flaen.

Mae’r Lluoedd Arfog hefyd wedi helpu i sefydlu dwsinau o ganolfannau cynnal profion ledled Prydain, gan gynnwys un yn Llandudno. Mae milwyr bellach yn casglu samplau gan weithwyr allweddol mewn Unedau Profi Symudol ledled Cymru, sy’n helpu i ehangu gallu’r DU i gynnal profion yn gyflym.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Lluoedd Arfog y DU yn rhoi cymorth hollbwysig i Wasanaeth Ambiwlans GIG Cymru a gweithwyr gofal cymdeithasol, gan helpu i sicrhau bod gofal critigol yn parhau ledled Cymru.

Mae eu hymdrechion parhaus, ochr yn ochr ag ymdrechion ein gweithwyr allweddol anhygoel, yn brawf o’u hymrwymiad anhunanol i’n gwlad. Hoffwn ddiolch i bersonél y Lluoedd Arfog, a’r rheini maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â nhw, sy’n gwneud gwaith gwirioneddol wych i gadw’n gwlad ni i fynd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae’r cymorth mae ein milwyr a’n milwyr wrth gefn wedi’i roi yng Nghymru yn dangos, unwaith eto, ein bod yn well yn mynd i’r afael â’r coronafeirws gyda’n gilydd ar draws pedair gwlad y DU, gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau rydyn ni’n eu rhannu.

Dywedodd James Heappey, Gweinidog y Lluoedd Arfog:

Mae ein lluoedd arfog yn falch o barhau i weithio ochr yn ochr â gwasanaethau brys, cynghorau lleol a’r GIG i gefnogi cymunedau ledled Cymru.

O gynnal profion i ddosbarthu cyfarpar diogelu personol, mae ein Lluoedd Arfog yn dangos eu hyblygrwydd, eu harbenigedd a’u parodrwydd i helpu pobl Cymru ym mha bynnag ffordd sy’n angenrheidiol.

Mae cymorth y lluoedd arfog i fynd i’r afael â COVID-19 yng Nghymru yn cynnwys:

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae’r Fyddin wedi cynyddu faint o gymorth mae’n ei roi i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Mae 30 o filwyr wedi cael eu hyfforddi i ddiheintio ambiwlansys, ar ben y 60 o filwyr gwreiddiol a gafodd y dasg o yrru ambiwlansys ddechrau mis Ebrill.

Byddin Prydain yn rhoi cyngor ar logisteg i GIG Cymru

Mae tîm logisteg arbenigol wrth gefn o 4ydd Catrawd Corfflu Logisteg Brenhinol Byddin Prydain wedi cael ei neilltuo i helpu GIG Cymru i ddosbarthu cyfarpar diogelu personol (PPE). Mae’r tîm o 30 wedi helpu i fireinio’r broses o ddosbarthu cyfarpar hanfodol i dros 16 o ysbytai ar draws saith bwrdd iechyd rhanbarthol drwy ddarparu cyngor ar logisteg a hyfforddi staff ychwanegol. Mae tîm cynghori a mentora milwrol hefyd wedi cael ei roi ar waith i helpu i ddosbarthu cyfarpar meddygol ledled y wlad, er mwyn ateb y galw i’r graddau mwyaf posib.

Milwyr yn dadlwytho cyfarpar diogelu personol (PPE) a gafodd ei hedfan i mewn i faes awyr Caerdydd

Bu tua 30 o filwyr wrth gefn o 3 Chatrawd y Cymry Brenhinol, yn dadlwytho cyfarpar diogelu personol hanfodol a gafodd ei hedfan i mewn i faes awyr Caerdydd o Tsieina a Cambodia. Roedd y milwyr wrth gefn wrth law i ddadlwytho 2 filiwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol a fyddai’n cael ei ddefnyddio gan weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.

Dosbarthu ocsigen

Bu tîm cymorth milwrol yn asesu systemau anweddu wedi’u hinsiwleiddio â gwactod ledled GIG Cymru, er mwyn sicrhau bod cyflenwadau ocsigen yn y lleoliadau priodol yn ôl yr angen. Cafodd milwyr o’r tri gwasanaeth eu hyfforddi i yrru tanceri ocsigen yng nghyfleuster Air Products ym Mhort Talbot er mwyn cefnogi’r GIG.

Cynllunio

Mae personél cysylltu a chynllunio milwrol wedi cael eu lleoli ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghanolfan Cydlynu Argyfwng Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, y Pedwar Fforwm Cydnerthedd a’r saith Bwrdd Iechyd Lleol.

Datblygu ysbytai maes a safleoedd cynnal profion

Mae Timau Asesu Milwrol wedi helpu’r GIG yng Nghymru i ddatblygu ysbytai maes, gan gynnwys un yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd. Hefyd, mae cyfanswm o saith canolfan cynnal profion ledled Cymru sy’n cynnwys personél milwrol, yn ogystal â nifer cynyddol o Unedau Profi Symudol.

Cyhoeddwyd ar 21 May 2020