Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan yn cymeradwyo gwaith Kids Taskforce

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi canmol gwaith Kids Taskforce yn eu Gala Flynyddol heddiw, 23 Tachwedd 2011. Mae Kids Taskforce…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi canmol gwaith Kids Taskforce yn eu Gala Flynyddol heddiw, 23 Tachwedd 2011. Mae Kids Taskforce yn darparu amrywiaeth o raglenni addysg ledled Cymru a Lloegr, sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i wneud y penderfyniadau cywir mewn bywyd, a chadw eu hunain yn ddiogel. Yn gynharach eleni, defnyddiwyd Tŷ Gwydyr, pencadlys Swyddfa Cymru yn Llundain, fel lleoliad fideo Kids Taskforce a gafodd ei lansio yn Scotland Yard yr wythnos ddiwethaf.  

Wrth siarad yn y cinio, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:** **

“Roedd yn fraint cael rhoi fy ystafell yn Nhŷ Gwydyr, Whitehall, yn gynharach eleni i blant Kids Taskforce fel lleoliad realistig wrth iddynt ddefnyddio’u talentau i wneud ffilm hyrwyddo yn actio gwleidyddion yn cadeirio pwyllgor.

“Hoffwn ddiolch i Kids Taskforce am yr holl waith caled maent yn ei wneud, yn enwedig mewn ysgolion, gan helpu plant a phobl ifanc i wneud y dewisiadau iawn er mwyn teimlo’n ddiogel.

“Hoffwn hefyd ddymuno pob llwyddiant i Kids Taskforce dros y flwyddyn sydd i ddod, gan fod y gwaith maent yn ei wneud mor bwysig i fywydau plant yng Nghymru a Lloegr.”

Nodiadau i Olygyddion:** **

  1. I gael rhagor o wybodaeth am Raglenni Dysgu Kids Taskforce, ac i wylio’r fideo a gafodd ei ffilmio yn Swyddfa Cymru (noddwyd y ffilm gan Nokia), dilynwch y ddolen http://www.kidstaskforce.com/nokia.html
Cyhoeddwyd ar 23 November 2011