Ysgrifennydd Cymru’n cadeirio Bwrdd Cynghori newydd ar yr Economi
Stephen Crabb: “Hoffwn weld Cymru’n dod yn gyrchfan flaenllaw ar gyfer busnesau a buddsoddiadau newydd.”

Heddiw (10 Tachwedd), bydd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn arwain grŵp cynghori newydd ar yr economi er mwyn mynd i’r afael â’r materion y mae busnesau’n eu hwynebu yng Nghymru.
Bydd y Bwrdd Cynghori ar yr Economi yn gyfle i’r Ysgrifennydd Gwladol glywed amrywiaeth eang o safbwyntiau o bob cwr o’r gymuned fusnes er mwyn i’r Llywodraeth gael gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n bwysig i fusnesau yng Nghymru.
Bydd Mr Crabb yn cynrychioli safbwyntiau aelodau’r grŵp i Lywodraeth y DU ac yn helpu i greu amgylchedd busnes ffyniannus yng Nghymru.
Bydd y cyfarfod cyntaf heddiw’n canolbwyntio ar dechnoleg a’r ffordd orau i Lywodraeth y DU gefnogi arloesi yng Nghymru.
Daw hyn ychydig dros wythnos cyn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghymru ar 20-21 Tachwedd. Mae dros 150 o arweinwyr busnes yn dod i’r Uwchgynhadledd yn y Celtic Manor, a fydd yn dangos bod Cymru’n ganolfan ragoriaeth yn y DU o ran technolegau arloesol.
Mae dau o’r busnesau yn y cyfarfod heddiw – Raspberry Pi a Concrete Canvas – yn barod i ddangos eu dyfeisiau arloesol diweddaraf i fuddsoddwyr rhyngwladol yn yr Uwchgynhadledd.
Mae’r arweinwyr busnes sy’n dod i’r cyfarfod heddiw’n cynnwys David Davies o Axiom Manufacturing, Gerald Kelly o Raspberry Pi a Dr Drew Nelson o IQE, sy’n darparu’r dechnoleg waffer sy’n cefnogi dros hanner ffonau symudol y byd.
Mae’r Bwrdd Cynghori ar yr Economi yn cwrdd ar ddechrau Wythnos Allforio Llywodraeth y DU, sy’n rhan o’r cynllun economaidd hirdymor i roi hwb i fasnach, creu swyddi a denu buddsoddiadau newydd i Gymru.
Mae yna rai busnesau gwych yng Nghymru sy’n masnachu’n rhyngwladol, ac wrth i ni nesáu at yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r wythnos nesaf, mae’r Llywodraeth yn annog mwy o fusnesau i ehangu i farchnadoedd tramor, ac yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael iddynt.
Dywedodd Stephen Crabb
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae busnesau Cymru wedi ymateb i’n galwad i helpu i roi hwb i’r economi unwaith eto, ac maent wedi creu 100,000 o swyddi newydd yn y sector preifat. Ond mae angen i ni fynd ymhellach.
Drwy leihau’r diffyg, torri’r Dreth Gorfforaeth a lleihau biwrocratiaeth, rydyn ni wedi gwneud y DU yn lle mwy cystadleuol a deniadol i fewnfuddsoddi ynddo. Ond dydw i ddim am weld Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU, hoffwn weld Cymru’n dod yn gyrchfan flaenllaw ar gyfer busnesau a buddsoddiadau newydd.
Gyda’r polisïau iawn yn Llundain ac yng Nghaerdydd, gallwn wneud yn siŵr mai Cymru yw’r lle gorau i fuddsoddi ynddo ac ar gyfer twf busnesau, ac mae’r Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r wythnos nesaf yn ddelfrydol i ddangos y wlad i fuddsoddwyr y byd.
Dywedodd Dr Nelson, sydd hefyd yn banelydd yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU:
Bydd y Bwrdd Cynghori ar yr Economi yn fforwm deinamig iawn i helpu i benderfynu ar y llwybrau mwyaf effeithiol i ysgogi gweithgareddau economaidd arwyddocaol yng Nghymru.
Ar y cyd â’r Uwchgynhadledd Fuddsoddi a gynhelir cyn hir yn y Celtic Manor, mae gan Gymru gyfle gwych i ddangos hyd a lled, gweledigaeth ac uchelgais y gymuned fusnes ac academaidd yng Nghymru o ran dod yn rym rhanbarthol y DU mewn marchnadoedd byd-eang.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Cynghori ar yr Economi ym mis Ionawr 2015, ar thema’r diwydiant awyrennau.