Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn dathlu llwyddiant y rheini sydd wedi cael Anrhydeddau Blwyddyn Newydd

Cymry’n cael eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i gymdeithas

Example of medals received

Mae’r Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd yn cydnabod llwyddiannau amrywiaeth helaeth o bobl eithriadol ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi canmol y rhai sy’n derbyn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd o Gymru. Wrth fynegi ei ddiolchgarwch am eu “hymrwymiad cyson i wasanaethu eu cymunedau” llongyfarchodd Mr Hart bawb a oedd yn derbyn y gwobrau.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bob blwyddyn mae’n ysbrydoliaeth darllen straeon unigolion gweithgar a gafodd eu henwebu am eu hymrwymiad i wella eu cymunedau. A dydy eleni ddim yn eithriad.

Wrth i ni groesawu degawd newydd rydw i’n falch o weld Cymry o bob math o gefndiroedd yn cael eu cydnabod am eu rolau, gan gynnwys addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, neu ddarparu gofal eithriadol i bobl hŷn neu anabl.

Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad cyson i wasanaethu eu cymunedau a gwella bywydau pobl eraill Llongyfarchiadau i bawb a gafodd ei anrhydeddu heddiw.

Gan longyfarch Syr Keith Thomas FBA, a gafodd Gydymaith Anrhydeddus am Wasanaethau i Astudio hanes, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Mae Syr Keith wedi ymroi llawer o’i fywyd i astudio ac addysgu hanes ym Mhrifysgol Rhydychen, yn dilyn ei fagwraeth yn y Wig ym Mro Morgannwg.

Wrth gael ei ystyried yn arloeswr ym maes hanes cymdeithasol, mae wedi cael gyrfa hynod nodedig yn y byd academaidd a bywyd cyhoeddus ac wedi ennill nifer o wobrau am ei waith dros y blynyddoedd.

Rwy’n falch iawn o longyfarch Syr Keith ar y wobr hon sy’n cydnabod oes o ymroddiad i broffesiwn mor werthfawr.

Gan longyfarch Jade Jones MBE, a gafodd OBE am wasanaethau i Taekwondo a Chwaraeon, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart:

Mae Jade wedi dod yn un o bersonoliaethau chwaraeon mwyaf adnabyddus y ddegawd ers ei buddugoliaeth yng Ngemau Olympaidd Llundain a Rio.

Mae hi’n ysbrydoliaeth nid yn unig o fewn taekwondo ond i bob athletwr gobeithiol oherwydd ei disgyblaeth a’i hymroddiad. Ymrwymiad sydd wedi caniatáu iddi ddod yn ôl o adfyd ac ennill rhai o deitlau mwyaf ei chwaraeon, gan gynnwys yn ddiweddar ei Phencampwriaeth Byd cyntaf.

Llongyfarchiadau Jade ar dy gyflawniad aruthrol.

Gan longyfarch Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru Glynne Jones a dderbyniodd CBE am Wasanaethau i’r Cyhoedd, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart:

Mae’r wobr hon yn cydnabod ei gyflawniadau anhygoel yn ystod ei yrfa hir yn y gwasanaeth sifil.

Mae’n fraint gweithio gyda gwas cyhoeddus mor ysbrydoledig ac yr wyf yn ddiolchgar am ei ymrwymiad diysgog i’w dîm a’r cyhoedd yng Nghmru.

Llongyfarchiadau Glynne, rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi, ar ran Cymru, yn 2020.

Gan longyfarch Loren Dykes, a gafodd MBE am wasanaethau i Bêl-Droed Merched yng Nghymru, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Mae poblogrwydd pêl-droed merched yng Nghymru ac o gwmpas y byd yn tyfu ar raddfa na welwyd mo’i thebyg o’r blaen. Mae Loren wedi bod yn rhan greiddiol o sicrhau’r twf hwn drwy hyfforddi sêr y dyfodol a dangos i fenywod a merched yr uchelfannau byd-eang y mae modd eu cyrraedd mewn chwaraeon.

Hoffwn longyfarch Loren a dymuno pob llwyddiant iddi yng ngweddill ei gyrfa.

Gan longyfarch Renate Collins, a gafodd BEM am wasanaethau i Addysg am yr Holocost, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Mae ymrwymiad Renate i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael eu haddysgu am erchyllterau’r Holocost yn haeddu canmoliaeth. Mae ei stori yn ein hatgoffa ni i gyd am y peryglon mae casineb yn peri ymysg cymunedau yn ein cymdeithas.

Hoffwn ei llongyfarch yn wresog am dderbyn yr anrhydedd hwn.

Gan longyfarch Anthony David White, a gafodd BEM am wasanaethau ym maes Meddygaeth yng Nghymru, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Drwy ymrwymiad Anthony i ddarparu gofal o ansawdd uchel, mae miloedd o gleifion hŷn yn Wrecsam a’r ardal gyfagos yn cael triniaeth arbenigol sy’n canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau gwell a’u hail-integreiddio i’r gymuned.

Llongyfarchiadau i ti Anthony am gael yr anrhydedd haeddiannol hwn.

Darllenwch restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2020 yn llawn ar wefan Swyddfa’r Cabinet.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 27 December 2019