Datganiad i'r wasg

Ymateb Swyddfa Cymru i barn y Goruchaf Lys

“Mae’r Twrnai Cyffredinol a minnau’n ddiolchgar i’r Goruchaf Lys am egluro’r mater hwn. Fel y mae’r Arglwydd Hope yn pwysleisio yn ei ddyfarniad…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

“Mae’r Twrnai Cyffredinol a minnau’n ddiolchgar i’r Goruchaf Lys am egluro’r mater hwn. Fel y mae’r Arglwydd Hope yn pwysleisio yn ei ddyfarniad, roedd yn gwbl briodol i’r Twrnai Cyffredinol gyfeirio’r Bil i’r Goruchaf Lys bryd hynny. Mae hyn wedi cael gwared a’r ansicrwydd ynghylch cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu’r darpariaethau cyn iddynt ddod i rym.

“Bydd y dyfarniad yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wybod beth yw ffiniau datganoli.  Yn benodol, mae’n egluro i ba raddau y gall Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau i ddiwygio gweithdrefnau gwneud is-ddeddfau yn y dyfodol.

“Mae’r Llywodraeth yn gwerthfawrogi’r eglurhad hwn gan mai’r rheswm dros gyfeirio hyn oedd cael eglurhad ar gyfer ffiniau setliad datganoli Cymru, nid ymyrryd ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru.

“Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i wneud pob ymdrech i sicrhau bod y trefniadau deddfwriaethol yn gweithio’n effeithiol. Os caiff mater ei gyfeirio at y Goruchaf Lys, ni ddylid edrych ar hynny fel gwrthwynebiad, ond yn hytrach fel dull priodol o sicrhau bod datganoli yn gweithio’n llwyddiannus. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau hynny ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 21 November 2012