Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol: Y Gyllideb yn sicrhau adferiad economaidd cynaliadwy

Stephen Crabb: “Mae'r gyllideb hon yn rhoi sicrwydd economaidd i bobl Cymru sy'n gweithio'n galed ac sydd eisiau symud ymlaen."

Budget 2015

Mae’r Gyllideb heddiw yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn y Senedd ddiwethaf i sicrhau adferiad parhaus yng Nghymru, meddai Stephen Crabb.

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn siarad wrth i’r Canghellor ddatgelu mesurau a oedd yn cynnwys:

  • Cynyddu’r lwfans personol a fydd o fantais i 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru ac yn golygu na fydd yn rhaid i 29,000 o unigolion dalu treth incwm o gwbl
  • Cyflog byw cenedlaethol newydd
  • Codi’r trothwy treth incwm 40c i helpu’r rheini sydd ar incwm canolig
  • Lleihau’r bylchau mewn rheolau treth ar gyfer y rheini nad yw eu cartrefi yma a defnyddio arian o ddirwyon gan y banciau er budd elusennau a chyn filwyr sydd wedi bod mewn rhyfel
  • Cap ar fudd-daliadau a newidiadau i gredydau treth i wneud y system les yn decach
  • Rhewi treth tanwydd am flwyddyn
  • Lleihau treth corfforaeth i 18 y cant erbyn 2020, gan helpu busnesau Cymru i ail-fuddsoddi mwy o’u helw
  • Buddsoddi £3m yn yr hyb ymchwil Economi Ddigidol yn Abertawe*
  • Cynyddu lefel barhaol y lwfans buddsoddi blynyddol a fydd o fantais i 5,000 o fusnesau yng Nghymru
  • Ymestyn y Gronfa Cymunedau Arfordirol i 2017**

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae’r Gyllideb heddiw yn golygu sicrhau adferiad cynaliadwy a fforddiadwy i’r tymor hir ar gyfer pobl Cymru.

Oherwydd y penderfyniadau anodd a gafodd eu gwneud yn y Senedd ddiwethaf i ddod â chyllid y wlad yn ôl dan reolaeth, rydyn ni nawr yn gallu gwneud pethau’n haws ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu parhau i helpu’r rheini sydd angen help ar yr un pryd â chefnogi pobl yn ôl i gyflogaeth drwy sicrhau bod gwaith yn talu.

Bydd y mesurau sydd wedi cael eu hamlinellu gan y Canghellor heddiw yn rhoi hwb i fusnesau Cymru ac yn gwobrwyo pobl sy’n gweithio gan sicrhau bod y rheini sydd ag ysgwyddau digon llydan yn wynebu’r baich mwyaf.

Nodiadau i olygyddion

  • *Mae hybiau ymchwil yr Economi Ddigidol wedi cael eu dylunio i weithio’n agos gyda diwydiant er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau sydd eisoes ar gael. Mae canolfan Abertawe yn un o chwech a fydd yn gweithio ar faterion a fydd yn cynnwys gofal iechyd a thechnegau newydd i gipio symudiadau ar gyfer y diwydiant effeithiau gweledol

  • **Ers dechrau’r CCF mae £6.84m wedi cael ei fuddsoddi yng Nghymru

Cyhoeddwyd ar 8 July 2015