Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi ymgyrchoedd Chwe Gwlad Cymru
Ymgyrch i dimau Cymru yn dechrau dros y penwythnos.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn annog timau rygbi dynion a merched Cymru i ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS eleni yn hyderus pan fyddant yn wynebu’r Alban y penwythnos hwn (3 Chwefror).
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn werth ei gwylio, gyda miliynau o bobl o bob cwr o’r byd yn ei mwynhau dros y chwe wythnos nesaf.
Allan ar y cae, bydd pob tîm am y gorau, yn cystadlu’n frwd. Oddi ar y cae, bydd y twrnamaint yn rhoi hwb pwysig arall i economi Cymru ac i fusnesau lleol.
Wrth i filoedd o bobl baratoi i deithio i Gaerdydd i fwynhau’r awyrgylch unigryw ar ddiwrnod gêm, bydd gwylwyr o bob cwr o’r byd yn gweld statws Cymru’n cynyddu unwaith eto fel lleoliad i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at wylio timau Cymru’n dod yn eu blaen ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda’u hymgyrchoedd.
Yn dilyn y gêm yn erbyn yr Alban yn Stadiwm Principality, bydd dynion Cymru yn teithio i Twickenham i wynebu Lloegr, ac yna i Ddulyn i wynebu Iwerddon. Wedyn fe fyddan nhw’n croesawu’r Eidal a Ffrainc gartref yng Nghaerdydd.