Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn gwobrwyo tyfwr coeden Nadolig Stryd Downing

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwobrwyo busnes o’r DU am eu coeden Nadolig sydd yn mynd i ymddangos y tu fewn i Rif 10, Stryd Downing.

Secretary of State & Howard Morgan Poundfflad Farm

Secretary of State & Howard Morgan Poundfflad Farm / Ysgrifennydd Gwladol & Howard Morgan Ffrem Poundfflad

Ar ddydd Mercher 26 Hydref roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns yn bresennol yng nghystadleuaeth Sefydliad Tyfwyr Coed Nadolig Prydain (British Christmas Trees Growing Association) ar ddiwrnod agored ar fferm Poundfflad, Three Crosses, Abertawe.

Roedd dros 50 o goed Nadolig sy’n cael eu tyfu yn y DU yn y digwyddiad i gyd yn cystadlu am le yn Stryd Downing.

Yn ystod ei ymweliad, cyflwynodd Ysgrifennydd Cymru wobr i Dartmoor Trees y mae eu coeden Nadolig sydd wedi cael ei ddewis i ymddangos y tu mewn i’r Ystafell Pilllared yn Rhif 10.

Bydd y goeden fuddugol yn cael ei dorri ac yn ei chyflwyno i Stryd Downing lle bydd yn cael ei arddangos mewn goleuadau disglair wedi ei addurno ar gyfer yr ŵyl.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n newyddion gwych y bydd coeden Nadolig o Brydain yn sefyll y tu mewn i Rif 10 eto eleni.

Mae tyfu coed Nadolig yn ddiwydiant pwysig yn y DU gyda chynhyrchwyr yn gweithio drwy gydol y flwyddyn. Mae tua 70 miliwn o goed Nadolig yn tyfu ym Mhrydain ac mae’r diwydiant werth tua £250m i economi’r DU.

Roedd yn wych gweld cynrychiolaeth o bob cwr o’r DU yn y gystadleuaeth ac yn gweithio gyda’i gilydd cyn eu cyfnod prysuraf.

Cyhoeddwyd ar 26 October 2016