Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn mynd i weld perfformiad Olympic Diwylliannol yng Nghaerdydd

Bydd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn mynd i weld cynhyrchiad Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, ‘Sneb yn Becso Dam’, heno (13eg…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn mynd i weld cynhyrchiad Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, ‘Sneb yn Becso Dam’, heno (13eg Gorffennaf) fel rhan o ‘Olympiad Diwylliannol’ Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Mae’r cynhyrchiad yn benllanw prosiect tair blynedd o hyd a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU, sy’n seiliedig ar albwm o’r un enw gan y grŵp o’r 70au a’r 80au, Edward H Dafis.  Mae’n rhan o gyfres o brosiectau ‘Grym y Fflam’ sydd wedi dwyn nifer o brosiectau diwylliannol a threftadaeth ynghyd i ddathlu’r Olympiad Diwylliannol hyd a lled Cymru.

Mae’r sioe’n cael ei llwyfannu mewn tri lleoliad yng Nghymru - Caerdydd, Caerfyrddin a’r Rhyl - ac mae’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n wynebu pobl ifanc wrth iddynt bwyso a mesur y dewis anodd rhwng bywyd yn y ddinas a bywyd yng nghefn gwlad.

Dywedodd Mrs Gillan: “Fe fyddaf i’n teimlo’n falch iawn wrth fynd i weld y perfformiad heno. Rwy’n falch iawn o gyfraniad yr actorion gwych hyn i Olympiad Diwylliannol Gemau Olympaidd Llundain 2012, a hefyd o’u rol fel Llysgenhadon i bobl ifanc Cymru. Mae perfformiadau’r wythnos hon yn ffrwyth llafur tair blynedd o waith caled Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd a’r actorion sydd wedi perffeithio eu crefft drwy gyfrwng yr hyfforddiant penodol a gafwyd gan yr Urdd.

“Mae’r Olympiad Diwylliannol yn dathlu talent ein hartistiaid a’n perfformwyr sydd wedi dod a blas o ddiwylliant Cymru i gynulleidfaoedd hyd a lled y DU a thu hwnt. Mae gennyn ni gymaint i’w gynnig i gynulleidfaoedd, ac fe fydd hyn yn gyfle gwych i arddangos talent theatrig Cymru ac ymuno yn hwyl y gemau Olympaidd yr haf hwn.”

Nodiadau i olygyddion:
Yr Olympiad Diwylliannol yw’r dathliad diwylliannol mwyaf yn hanes y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd modern, gydag ystod eang o ddigwyddiadau, gweithdai a pherfformiadau’n cael eu cynnal hyd a lled y DU. Gŵyl 2012 Llundain fydd penllanw’r Olympiad Diwylliannol, ble cynhelir dros 12,000 o gyngherddau, perfformiadau, arddangosfeydd a digwyddiadau awyr agored ysblennydd. Elusen annibynnol yw Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU, sy’n creu gwaddol diwylliannol a chwaraeon parhaus o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 ym mhob cwr o’r DU. Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU yw Prif Gyllidwyr yr Olympiad Diwylliannol a Gŵyl Llundain 2012.Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw un o’r gwyliau ieuenctid diwylliannol mwyaf yn Ewrop, sy’n denu miloedd o gystadleuwyr ac ymwelwyr bob blwyddyn. Mae Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn dod ag actorion o bob cwr o Gymru at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithdai a chyrsiau preswyl i ddatblygu eu crefft.

Cyhoeddwyd ar 13 July 2012