Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cymeradwyo partneriaeth gydweithredol yn y trafodaethau masnach cyntaf rhwng y DU a Tsieina yng Nghaerdydd

Heddiw, 15fed Rhagfyr, fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, siarad yn y trafodaethau masnach cyntaf rhwng y DU a Tsieina yng…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, 15fed Rhagfyr, fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, siarad yn y trafodaethau masnach cyntaf rhwng y DU a Tsieina yng Nghaerdydd, lle bu iddi groesawu agwedd gydweithredol y Llywodraethau yn Llundain ac yng Nghaerdydd er mwyn i Gymru allu gwneud busnes ar lwyfan ryngwladol. Dyma’r tro cyntaf i drafodaethau o’r fath gael eu cynnal y tu allan i Lundain.

Mae’r DU a Tsieina wedi llofnodi canllawiau a luniwyd i hybu gwariant ar seilwaith yn y ddwy wlad, a darparu cyfleoedd i gwmniau’r DU ennill busnes. Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar gyfleoedd buddsoddi yn y ddwy wlad, gyda seilwaith hefyd yn thema allweddol i Gyd-gomisiwn Economi a Masnach y DU-Tsieina.

Cadeirydd y digwyddiad oedd Vince Cable, yr Ysgrifennydd Busnes, ac roedd Gao Hucheng, Cynrychiolydd Masnach Rhyngwladol Tsieina a’r Dirprwy Weinidog Masnach, yn bresennol hefyd.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Agwedd gydweithredol at fusnes gan Swyddfa Cymru, Tim Masnach a Buddsoddi y DU a Thim Buddsoddi Llywodraeth Cymru yw’r allwedd ar gyfer gweithio’n agosach yn rhyngwladol yn y dyfodol. Gyda’n gilydd gallwn hyrwyddo Cymru a’r DU yn llwyddiannus i fuddsoddwyr posib, denu buddsoddiad a darparu cymorth i gwmniau’r DU sy’n dymuno llwyddo yn yr economi fyd-eang.”

Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar sut gall cwmniau’r DU fod yn rhan o brosiectau adeiladu enfawr megis maes awyr arfaethedig newydd Beijing, ac adeiladu porthladdoedd ar arfordir Tsieina. Mae cwmniau seilwaith y DU mewn safle delfrydol ar gyfer bod yn rhan o brosiectau o’r fath, gan fod ganddynt brofiad arbenigol mewn datblygu cynaliadwy a rheoli prosiectau.

Bydd Tasglu Seilwaith y DU-Tsieina hefyd yn gweithio i hyrwyddo cyfleoedd seilwaith arbennig sy’n bodoli ymhob gwlad i gwmniau’r DU a Tsieina.  Bydd y tasglu hefyd yn gweithio i gael gwared ar rwystrau tybiedig rhag buddsoddi.

Cyhoeddwyd ar 15 December 2011