Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn annerch y Soroptimyddion Rhyngwladol ar ben-blwydd y mudiad yn 60 oed

Bydd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwlad Cymru, yn cyflwyno’r brif araith i’r Soroptimyddion Rhyngwladol wrth iddynt ddathlu Pen-blwydd Diemwnt…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwlad Cymru, yn cyflwyno’r brif araith i’r Soroptimyddion Rhyngwladol wrth iddynt ddathlu Pen-blwydd Diemwnt y mudiad ac fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gynharach yr wythnos hon.

Bydd Mrs. Gillan yn annerch cangen Gogledd Cymru y grŵp i drafod ei rol fel Ysgrifennydd Gwladol benywaidd cyntaf Cymru ac fel un o’r pedair menyw yn y Cabinet, gan hyrwyddo’r neges fod menywod Cymru yn gwneud eu marc ym myd gwleidyddiaeth.

Dywedodd: “Cafwyd dau ddigwyddiad arbennig yr wythnos hon yn dathlu cyflawniadau a llwyddiannau menywod - canmlwyddiant Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Phen-blwydd Diemwnt y Soroptimyddion Rhyngwladol. Mae’r ddau’n adlewyrchu’r neges y gall menywod wireddu eu potensial yn bersonol ac ar y cyd a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

“Rwy’n hynod o falch mai fi yw’r fenyw gyntaf i gamu i rol Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae fy mhenodiad i, yn ogystal ag ethol Kirsty Williams fel y fenyw gyntaf i arwain plaid yn y Cynulliad, a phenodi pedair menyw fel Gweinidogion y Cynulliad, yn dangos gwir gynnydd ar ran menywod ar frig bywyd gwleidyddol yng Nghymru. Yn Etholiadau Cyffredinol y llynedd, gwelwyd y nifer fwyaf erioed o fenywod yn cael eu hethol yn Aelodau Seneddol - cam pwysig arall o ran sicrhau bod menywod yn llenwi swyddi dylanwadol a’u bod yn gallu ysgogi ac annog eraill i gyflawni eu huchelgeisiau.

“Mae llwyddiant y Soroptimyddion Rhyngwladol a thwf Diwrnod Rhyngwladol y Menywod fel digwyddiad byd-eang yn dangos bod menywod yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd, yn ymfalchio yn eu hanes a’u llwyddiannau, ac yn rhoi eu hamser a’u hegni i wella cyfleoedd a chydraddoldeb i fenywod ym mhedwar ban byd.”

Cyhoeddwyd ar 12 March 2011