Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn derbyn allweddi canolfan Llywodraeth y DU yng Nghaerdydd

Bydd miloedd o weision sifil Llywodraeth y DU yn symud i’r adeilad newydd yn ddiweddarach eleni

Welsh Secretary accepts keys to new UK Government hub in Cardiff
  • Bydd y ganolfan newydd yng Nghaerdydd Canolog yn agor ei drysau i 4,000 o weision sifil Llywodraeth y DU yn hwyr yn 2020
  • Rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r Undeb a lefelu adnoddau’r gwasanaeth sifil ar draws y Deyrnas Unedig
  • Mae’r ganolfan yn un o 16 o ganolfannau Llywodraeth y DU sy’n cael eu creu ar hyn o bryd

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi derbyn allweddi canolfan Llywodraeth y DU yng Nghanol Caerdydd yn swyddogol.

Trosglwyddodd Rightacres Property Company yr allweddi yn swyddogol i’r Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS heddiw (Dydd Gwener 10 Ionawr). Bydd contractwyr ISG nawr yn paratoi’r adeilad yn Sgwâr Canolog i dros 4,000 o weision sifil mewn nifer o adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU i ddechrau gweithio ar ddiwedd 2020.

Mae’r adeilad yng Nghaerdydd yn un o 16 o ganolfannau Llywodraeth y DU sy’n cael ei greu ar hyn o bryd ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU. Mae’n ffurfio rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r Undeb drwy adeiladu capasiti y gwasanaeth sifil ar draws y Deyrnas Unedig gyfan a lefelu ei hadnoddau.

Mae’r datblygiad newydd yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU i fuddsoddi hyd at £58 miliwn i uwchraddio gorsaf drenau Caerdydd Canolog a buddsoddiad o £5 miliwn i wella teithiau drwy drydaneiddio’r brif linell rhwng de Cymru a Llundain.

Mae adeilad Caerdydd wedi ei henwi yn Tŷ William Morgan – William Morgan House i gydnabod rôl yr Esgob William Morgan i gynnal cryfder yr iaith Gymraeg drwy gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae’r buddsoddiad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru ac i gryfhau’r Undeb. Yn ogystal â hyn, cynyddu gallu’r gwasanaeth sifil y tu allan i Lundain.

Mae’r digwyddiad heddiw yn garreg filltir gyffrous yn y gwaith o adeiladu Tŷ William Morgan – William Morgan House a fydd yn darparu awyrgylch weithio modern a hyblyg yng nghanol Caerdydd i filoedd o’n gweision sifil.

Meddai Gweinidog dros Weithredu yn Swyddfa’r Cabinet, Jeremy Quin:

Mae symud miloedd o weision sifil i galon dinasoedd ar draws y DU yn help i roi hwb i economïau lleol a sicrhau nad yw Llywodraeth y DU wedi ei chanoli yn Llundain yn unig.

Bydd y datblygiad yng Nghaerdydd yn dod a hwb sylweddol i’r ardal sy’n cymeradwyo buddsoddiadau gwych y llywodraeth sydd eisoes wedi eu cyhoeddi ar gyfer y ddinas.

Meddai Penny Ciniewicz, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM dros Gydymffurfiaeth Gyffredinol CThEM:

Mae hyn yn garreg filltir sylweddol i CThEM, a fydd yn dod â mwy na 3,600 o gydweithwyr i Sgwâr Canolog. Mae gan yr adran bresenoldeb mawr a hir sefydlog yng Nghymru ac mae’r ganolfan ranbarthol yng nghanol Caerdydd yn dangos ein hymrwymiad i Gymru a’i heconomi.

Bydd yr adeilad modern yma’n dod â thimau at ei gilydd er mwyn iddynt allu gweithio’n wahanol ac yn fwy effeithiol.

Mae’r datblygiad 270,000 troedfedd sgwâr gwerth £100 miliwn wedi ei ddarparu gan Rightacres, Cyngor Caerdydd a’r cyllidwyr Legal & General (LGIM Real Assets). Bydd yr adeilad 12 llawr, sydd wedi ei ddylunio a’i hadeiladu gan Sir Robert McAlpine, yn gartref i staff o nifer o adrannau Llywodraeth y DU yng Nghymru yn ogystal â’r gallu i gynnal cyfarfodydd llawn Cabinet y DU. CthEM fydd yr adran fwyaf yn y ganolfan - y ganolfan hon fydd ei chanolfan rhanbarthol a fydd yn denu 3,600 o’r staff i’r sgwâr canolog.

Ychwanegodd Paul McCarthy, Prif Weithredwr Rightacres:

Mae hwn yn ymdrech tîm wrth i ni weithio gyda’n partneriaid i drawsnewid calon ein prifddinas gyda phorth newydd i Gymru y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo.

Fel un o’r prosiectau adfywio mwyaf llwyddiannus yn y DU, mae Sgwâr Canolog yn gatalydd i greu gofod dinesig newydd a chanol dinas sy’n gyfeillgar i bobl, sy’n hawdd i’w gyrraedd, sy’n hyblyg ac yn ddiogel. O greadigrwydd strategol gwych yr uwch gynllun i osod pob slab palmant unigol, mae cyflawni’r datblygiad eiconig hwn ar amser ac o fewn cyllideb yn destament i bawb sy’n ynghlwm â’r prosiect.

Meddai Tom Roberts, Pennaeth Buddsoddi Strategol yn LGIM Real Assets:

Mae darparu canolfan newydd y Llywodraeth ar amser ac i safon mor uchel yn dyst i’r ymagwedd o gydweithrediad sydd wedi ei fabwysiadu ar y datblygiad llwyddiannus yma. Mae canolfan newydd y Llywodraeth yn enghraifft wych o adeilad modern addas sydd wedi ei hamgylchynu gan amwynderau a seilwaith rhagorol. Rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn dod yn fyw yn hwyrach eleni gyda gweithwyr wrth i Sgwâr Caerdydd Canolog fynd i mewn i’r camau terfynol o’r datblygiad.

Dechreuwyd y gwaith adeiladu ar gam cyntaf prosiect Sgwâr Canolog yn 2014 gyda Un Sgwâr Canolog yn cael ei gwblhau ym mis Mawrth 2016 ac yna Dau Sgwâr Canolog yn haf 2017. Cwblhawyd pencadlys newydd BBC Cymru Wales werth £120 miliwn ym mis Ebrill 2018 a dechreuodd y gwaith ar gyfnewidfa fysus newydd ym mis Gorffennaf 2019.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 10 January 2020