Stori newyddion

Disgyblion o Gymru yn mynd â’u cefnogaeth ar gyfer Addysg i Ferched i Whitehall

Croesawodd David Jones, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, ddisgyblion o Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn i Whitehall, wrth iddynt fynd a’u cefnogaeth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Croesawodd David Jones, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, ddisgyblion o Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn i Whitehall, wrth iddynt fynd a’u cefnogaeth i’r ymgyrch Send my Sister to School i Stryd Downing.

Aeth Mr Jones gyda’r disgyblion i Stryd Downing wrth iddynt gyflwyno 400 o ffigyrau ‘chwiorydd’ a negeseuon yn galw am Addysg i Bawb i’r Prif Weinidog, David Cameron. Mae Pen y Bryn yn ymuno a miloedd o ysgolion ledled y DU i gefnogi’r ymgyrch sy’n ceisio dwyn sylw at y ffaith bod dros 35 miliwn o ferched ar draws y byd yn cael eu hamddifadu o addysg.

Dywedodd Mr Jones: “Braf iawn oedd cael mynd gyda’r disgyblion hyn i Stryd Downing i ddwyn sylw at yr ymgyrch bwysig hon. Maent yn deall pa mor bwysig yw bod pawb yn cael addysg.

“Mae gan ymgyrchoedd megis Send My Sister to School rol bwysig yn dwyn sylw at y ffaith nad yw pob merch yn y byd mor ffodus a phobl ifanc mewn gwledydd datblygedig a’u bod yn cael eu hamddifadu o addysg. Mae Ysgol Pen y Bryn wedi bod yn ymgyrchu ers amser i hyrwyddo Addysg i Bawb ac rwy’n falch iawn o allu dangos fy nghefnogaeth i’w hymdrech ddiweddaraf.”

Dywedodd Tabitha Sawyer, athrawes yn Ysgol Pen y Bryn:  “Mae’r ysgol gyfan wedi cyfrannu at yr ymgyrch bwysig iawn hon. Mae wedi bod yn eithriadol o braf gweld eu hwynebau yma yn Stryd Downing, yn enwedig o wybod pa mor bwysig yw’r materion sy’n sail i’r ymweliad hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Send My Sister to School ewch i:
www.sendmyfriend.org

Cyhoeddwyd ar 15 July 2011