Datganiad i'r wasg

Prosiectau yng Nghymru yn gallu parhau i ddatblygu'r dechnoleg fatris ddiweddaraf ar gyfer cerbydau trydan

Llywodraeth y DU wedi neilltuo £1.4 miliwn o gyllid i brosiectau batris yng Nghymru.

Industrial strategy logo

Yn y cylch cyllido diweddaraf i gael ei gyhoeddi yn Her Batri Faraday Llywodraeth y DU, neilltuwyd cyfran o £1.4 miliwn i Deregallera Ltd a Tri-Wall Europe Limited er mwyn datblygu’r dechnoleg fatris ddiweddaraf.

Bydd y cyllid hwn yn galluogi’r cwmnïau i greu mwy o swyddi sgiliau uwch gyda chyflogau da ledled y wlad, gan roi hwb i’r economi, a chryfhau enw da Cymru ar gyfer rhagoriaeth arloesi.

Mae’r gronfa’n rhan o ymdrech Llywodraeth y DU i gynnal safle Prydain o fod ar y blaen o ran technolegau newydd a marchnadoedd newydd drwy ei Strategaeth Ddiwydiannol fodern.

Gan ddod â busnesau a’r byd academaidd blaengar ynghyd er mwyn cyflymu’r ymchwil sydd ei angen i ddatblygu’r technolegau batris diweddaraf ar gyfer ceir trydan, mae Her Batri Faraday yn rhan hanfodol o uchelgais y DU i gael economi allyriadau sero net.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn rhan hanfodol o gynllun Llywodraeth y DU i gefnogi twf gwyrdd cynaliadwy, gan greu cyfleoedd a swyddi ym mhob rhan o’r DU.

Mae’r cylch cyllido diweddaraf sydd wedi ei neilltuo i Gymru yn Her Batri Faraday yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu ymchwil ac arloesedd yng Nghymru. Mae buddsoddi mewn dyfodol gwyrdd yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cwmnïau yn manteisio ar yr £1.4 miliwn i roi Cymru ar y blaen o ran arloesi gwyrdd.

Mae’r £23 miliwn sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Greg Clark, yr Ysgrifennydd Busnes, yn rhan o’r £274 miliwn a fydd yn cael ei ddyfarnu i gonsortia ledled y DU drwy Her Batri Faraday.

Dywedodd Yr Athro Syr Mark Walport, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU:

Mae Her Batri Faraday yn dod ag arbenigedd o safon byd-eang ynghyd o feysydd ymchwil a diwydiant yn y DU, er mwyn cyflwyno technolegau batris a fydd yn pweru cerbydau yn y dyfodol.

Mae’r prosiectau a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn pwysleisio sut y bydd yr arbenigedd hwn yn mynd i’r afael â’r heriau mwyaf sy’n wynebu datblygiad y genhedlaeth nesaf o fatris ceir trydan, gan gynnwys eu ffynonellau pŵer, eu perfformiad, eu diogelwch a’r gweithgynhyrchu.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Deregallera, sydd wedi ei leoli yng Nghaerffili, yn datblygu system hybrid o storio ynni er mwyn ymestyn 50% ar oes batri cerbyd trydan.
  • Mae Tri-Wall Europe wedi ei leoli yn Nhrefynwy.
  • Mae’r prosiectau eraill y mae cyllid wedi ei neilltuo iddynt wedi eu rhestru yma.
  • Mae’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol yn cael ei darparu gan Ymchwil ac Arloesedd y DU. Mae Ymchwil ac Arloesedd y DU yn gorff sy’n cydweithio â phrifysgolion, sefydliadau ymchwil, busnesau, elusennau a’r llywodraeth er mwyn creu’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer datblygu ymchwil ac arloesedd.
  • Mae Her Batri Faraday yn fuddsoddiad gwerth £274 miliwn gan y llywodraeth yn nhechnoleg batris, ac mae’n cael ei ddarparu drwy’r Strategaeth Ddiwydiannol. Bydd yn datblygu batris yn y DU a fydd yn ddiogel, yn gost effeithiol, yn gryf, yn ysgafnach, byddant hefyd yn perfformio’n well, a bydd modd eu hailgylchu. Bydd y batris hyn yn pweru’r genhedlaeth nesaf o gerbydau trydan.
  • Fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, cyhoeddwyd Her Fawr Dyfodol Symudedd yn 2017 er mwyn annog a chefnogi arloesedd arbennig ym mheirianneg a thechnoleg yn y DU, gan roi’r DU ar y blaen o ran y diwydiant trafnidiaeth.
  • Mae hyn yn cynnwys newidiadau mawr mewn technolegau trafnidiaeth a modelau busnes, er mwyn gwneud symudedd pobl, nwyddau a gwasanaethau ledled y wlad yn fwy gwyrdd, yn fwy diogel, yn fwy rhwydd ac yn fwy dibynadwy.
Cyhoeddwyd ar 13 June 2019