Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu’r Diwygiadau Plismona newydd
Bydd y diwygiad plismona newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 1 Rhagfyr) yn rhoi’r cyhoedd wrth fon ymgyrch y Llywodraeth I leihau trosedd…
Bydd y diwygiad plismona newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 1 Rhagfyr) yn rhoi’r cyhoedd wrth fon ymgyrch y Llywodraeth I leihau trosedd, meddai David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru.
Bydd y diwygiadau, a gyhoeddwyd gan Teresa May yr Ysgrifennydd Cartref, yn galluogi’r cyhoedd i ethol Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a fydd yn ddemocratig atebol o fis Mai 2012, ac a fydd yn gosod blaenoriaethau plismona lleol ac yn dal y prif gwnstabl yn atebol..
Yn croesawu’r diwygiadau dywedodd Mr Jones: “Mae’r diwygiadau a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi’r cyhoedd wrth fon ein hymgyrch i leihau trosedd a rhoi mwy o hawl i bobl gael dweud eu dweud a chael dylanwad ar eu cymunedau lleol. Bydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a etholwyd yn uniongyrchol yn rhoi’r cyfle i bobl ddylanwadu ar sut y plismonir eu hardal leol, ac felly’n ailgysylltu’r heddlu a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.
“Dros amser maith, mae’r frwydr yn erbyn trosedd wedi ei chymhlethu mewn gwe o fan reolau wedi eu gorfodi o’r canol - bydd diwygiadau heddiw yn rhoi’r cyhoedd wrth fon plismona. Bydd y Comisiynwyr yn disodli awdurdodau anweladwy ac yn gwneud y lluoedd yn wir atebol i’r gymuned leol.
Bydd y mesur newydd, Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol hefyd yn ail gydbwyso’r Ddeddf Trwyddedu gan roi mwy o reolaeth dros drwyddedu alcohol i’r cyhoedd ac asiantaethau lleol.
Ychwanegodd Mr Jones : “Mae cyflwyniad trwyddedu 24 awr wedi gwneud ein trefi a’n dinasoedd yn ardaloedd caeedig gan adael yr heddlu i frwydro’n ddi-baid yn erbyn trosedd ac anhrefn o wedi ei gynnau gan alcohol. Bydd ein mesurau newydd yn rhoi i’r cyhoedd ac asiantaethau lleol, fwy o reolaeth dros benderfyniadau trwyddedu a fydd yn effeithio ar eu cymunedau lleol, a rhoi’r pwerau a fydd eu hangen i adennill eu trefi a’u dinasoedd.”