Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu penodiad Huw Jones yn Gadeirydd S4C

Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi croesawu penodiad Huw Jones yn gadeirydd S4C.    Bydd y penodiad yn para am bedair blynedd, gan…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi croesawu penodiad Huw Jones yn gadeirydd S4C.    Bydd y penodiad yn para am bedair blynedd, gan ddechrau ar 8 Mehefin 2011.  Gwnaed y penodiad yn sgil gwrandawiad craffu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y cyd a’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar 24 Mai.  

Mae Huw Jones yn gyn Brif Weithredwr S4C, a bu yn y swydd honno o 1994 hyd 2005.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gadeirydd is-gwmni masnachol y sianel ac yn Gyfarwyddwr SDN, deiliad y drwydded teledu digidol daearol.      Ar hyn o bryd mae Mr Jones yn Gadeirydd Portmeirion Cyf, yn Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ac yn Aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg. 

Dywedodd y Gweinidog fod penodiad Mr Jones yn gam pwysig tuag at sicrhau dyfodol sefydlog i’r sianel.

Dywedodd Mr Jones: “Yn ddiamau, mae S4C yn mynd trwy gyfnod o newid ond mae Mr Jones wedi profi bod ganddo’r proffesiynoldeb a’r arweinyddiaeth i lywio’r sianel drwy’r cyfnod anodd hwn i ddyfodol disglair a llewyrchus.      

“Mae S4C yn chwarae rhan bwysig ym mywydau siaradwyr Cymraeg a phobl sydd ddim yn siarad Cymraeg fel ei gilydd. Mae’n bwysig ei bod yn parhau i ddatblygu, gan ddarparu rhaglenni Cymraeg o safon uchel y mae S4C yn adnabyddus amdanynt ar gyfer gwylwyr y sianel.”    

Nodiadau i Olygyddion

1.      Penodwyd Cadeirydd S4C ar sail haeddiant yn dilyn proses benodi deg, agored a thryloyw oedd wedi’i rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. I weld Cod Ymarfer Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, ewch i -
http://www.publicappointmentscommissioner.org/Code_of_Practice/

Cyhoeddwyd ar 6 June 2011