Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld ag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

Heddiw [dydd Llun 21 Mawrth], bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld ag Aberdaugleddau gyda Mike Penning, Gweinidog dros Drafnidiaeth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [dydd Llun 21 Mawrth], bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld ag Aberdaugleddau gyda Mike Penning, Gweinidog dros Drafnidiaeth y DU, i gwrdd ag Awdurdod y Porthladd, gwylwyr y glannau a chynrychiolwyr o’r awdurdod lleol er mwyn trafod dyfodol Gwasanaeth Gwylwyr y Glannau yn y Porthladd. 

Cyhoeddodd Mr Penning yn ddiweddar y byddai’r cyfnod ymgynghori ar gyfer moderneiddio’r Porthladd yn cael ei ymestyn am 6 wythnos, er mwyn i’r holl bartion a chanddynt ddiddordeb gael datblygu eu cyflwyniadau a’u cynigion gwahanol ymhellach ar gyfer dyfodol y Porthladd.  Bu’r Gweinidogion yn cwrdd a swyddogion lleol yn ogystal a staff y ganolfan achub o’r Canolfannau Cydlynu yn Aberdaugleddau ac Abertawe. Cawsant daith o amgylch y porthladd cyn cwrdd ag arweinyddion y cyngor yn Aberdaugleddau.

Dywedodd Mr Jones: “Rwy’n deall pryderon pob parti perthnasol o ran  moderneiddio’r gwasanaeth, ac rwy’n gwerthfawrogi rhai o bryderon y staff a’r gwirfoddolwyr.  Dyna pam ein bod wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori fel bod gan bawb gyfle i ymateb a mwy o amser i fynegi eu pryderon.    

“Mae gan wasanaeth Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau draddodiad balch ac mae bob amser wedi bod ar flaen y gad gyda thechnoleg sgrin-gyffwrdd a radio.  Byddai’r newidiadau rydym yn ymgynghori yn eu cylch yn adlewyrchu’r newidiadau sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan ymateb i’r newidiadau hynny yn fwy cynaliadwy.  Erbyn hyn, mae mwy o gychod a llongau yn defnyddio’r mor ac mae mwy o bobl yn defnyddio’r traethau.  Mae angen i ni sicrhau ein bod yn cynnig dull integredig am gost is er mwyn mynd i’r afael a’r materion pwysig hyn, fel y gellir diogelu dyfodol y gwasanaeth ac ymateb yn fwy effeithiol i amddiffyn ein moroedd a’n glannau yn yr 21ain ganrif.”

Ychwanegodd y Gweinidog fod y cynigion presennol yn cynnwys cyfleoedd i gryfhau sut mae Gwasanaeth Achub gwirfoddol Gwylwyr y Glannau (CRS) yn cael ei reoli drwy gynyddu nifer y staff amser llawn a bod yn rhan o’r tim ar alwad 24 awr 7 diwrnod yr wythnos er mwyn bodloni gofynion ymateb Chwilio ac Achub.

Ychwanegodd: “Mae’r CRS yn chwarae rhan anferth yn y gwaith o amddiffyn ein moroedd a’n glannau a byddai’r cynigion presennol yn rhoi rol hollbwysig iddynt ei chwarae o ran cryfhau gwytnwch y gwasanaeth integredig newydd.”

Mae’r newidiadau arfaethedig i Wasanaeth Gwylwyr y Glannau yn cynnwys sefydlu dwy Ganolfan Gweithrediadau Morol a fydd yn cael eu rhwydweithio’n genedlaethol gyda systemau gwybodaeth gwell, yn ogystal a phum is-ganolfan yn ystod y dydd a fydd yn gweithio ochr yn ochr a chanolfan 24 awr a fydd yn rheoli Cynllun Gwahanu Traffig y Sianel.  

Cafodd yr ymgynghoriad “Amddiffyn ein Moroedd a’n Glannau yn yr 21ain Ganrif” ei lansio ym mis Rhagfyr 2010, ac mae disgwyl iddo ddod i ben bellach ar 5ed Mai 2011.

Cyhoeddwyd ar 21 March 2011