Gweinidog Swyddfa Cymru’n canmol gwaith Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Gogledd Cymru
Mae Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) yn chwarae rol amhrisiadwy wrth gefnogi ac annog dioddefwyr ymosodiadau rhywiol i riportio…
Mae Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) yn chwarae rol amhrisiadwy wrth gefnogi ac annog dioddefwyr ymosodiadau rhywiol i riportio’r drosedd, meddai David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru yn ystod ei ymweliad a SARC Gogledd Cymru.
Cyfarfu Mr Jones a rhai o’r asiantaethau sy’n ymwneud a’r ganolfan, a chlywodd o lygad y ffynnon am y gwasanaethau mae’r ganolfan yn eu darparu i ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol.
Mae’r SARC, a agorwyd yn 2009, yn darparu lleoliad un stop lle gall dioddefwyr ymosodiadau rhywiol dderbyn triniaeth feddygol a chyngor. Mae hefyd yn cynorthwyo ymchwiliadau’r heddlu, gyda chyfleusterau o’r radd uchaf ar gyfer archwiliad fforensig.
Yn siarad yn dilyn ei ymweliad, dywedodd David Jones: Gall troseddau ymosodiadau rhywiol achosi niwed dwys a hirbarhaol i ddioddefwyr. Dyna pam y mae mor bwysig i ddioddefwyr allu cael mynediad at gyngor a gwasanaethau proffesiynol o’r ansawdd uchaf i’w cefnogi.
“Mae Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn darparu cyfleusterau ardderchog, ac yn cynnig cefnogaeth arbenigol gan ystod o asiantaethau i ddioddefwyr mewn lleoliadau ledled Cymru, enghraifft o weithio gyda phartneriaid yn effeithiol, gan sicrhau bod anghenion y dioddefwr, yn briodol, yn cael y flaenoriaeth uchaf. Mae SARC Gogledd Cymru yn esiampl wych o asiantaethau, fel Heddlu Gogledd Cymru, GEG , byrddau iechyd lleol ac elusennau yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaeth campus i ddioddefwyr y drosedd drawmatig hon.
“Mae llawer o ddioddefwyr, am ba bynnag reswm, yn penderfynu peidio riportio’r drosedd. Mae’r amgylchedd anfygythiol a ddarperir gan SARCs yn chwarae rol allweddol wrth annog dioddefwyr i riportio’r drosedd, ac yn cynyddu’r gyfradd ddarganfod yn sylweddol. Roedd ymweliad heddiw yn gyfle i mi glywed mwy am waith y ganolfan ac i weld a’m llygad fy hun sut mae’r dull aml-asiantaethol yn llwyddo i ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau.”