Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn cofio wythnos Ymwybyddiaeth O Afaniadau i’r Ymennydd drwy ymweld ag uned Leonard Cheshire ym Mae Colwyn

Heddiw, ymwelodd un o Weinidogion Swyddfa Cymru, David Jones, a gwasanaeth Leonard Cheshire ym Mae Colwyn ar gyfer y rheini sydd wedi dioddef…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, ymwelodd un o Weinidogion Swyddfa Cymru, David Jones, a gwasanaeth Leonard Cheshire ym Mae Colwyn ar gyfer y rheini sydd wedi dioddef Anaf i’r Ymennydd, er mwyn nodi wythnos Ymwybyddiaeth o Anafiadau i’r Ymennydd.

Agorwyd yr uned, sy’n cynnwys wyth gwely, ym Mae Colwyn yn 2003 ac mae’n cynnig gwasanaeth adsefydlu preswyl i bobl sydd wedi cael anaf i’w hymennydd. Mae gan y gwasanaeth ystafelloedd en-suite mawr yn ogystal ag ystafelloedd ar gyfer darparu therapi penodol sy’n galluogi unigolion i fod mor annibynnol a phosib ac i gael y dewisiadau a’r cyfleoedd gorau posib yn dilyn  anaf.

Ac yntau’n canmol y lefel uchel o ofal a ddarperir yn yr uned, meddai Mr Jones: “Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn yr Uned yn wasanaethau o’r radd flaenaf. Maent yn rhoi’r cyfleoedd gorau posib ar gyfer adsefydlu yn dilyn anaf. Gan eu bod yn defnyddio dulliau un i un, mae hyn yn sicrhau bod rhaglenni sydd wedi’u teilwra’n arbennig yn cael eu datblygu er mwyn hybu annibyniaeth, hunan-barch a dewisiadau’r unigolion.

“Mae’r lefel uchel o ofal personol a ddarperir gan yr uned wedi cael cydnabyddiaeth amlwg dros y blynyddoedd, o ystyried y dyfarniadau niferus y mae wedi’u derbyn ym maes nyrsio. Heddiw, rwyf wedi gweld rhai o’r cyfleusterau a gynigir yn yr uned a’m llygaid fy hun - yn benodol, arddangosiad o’r cymhorthion cyfathrebu a ddarperir ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth yn yr uned. Mae staff yr uned yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rheini sy’n gwella ar ol cael anafiadau i’w hymennydd.”

Cyhoeddwyd ar 21 May 2010