Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn cytuno i fwrw ymlaen a Gorchymyn Tai hen ei ddiwygio ar gyfer y Cynulliad

This news article was published under the 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (29 Mehefin), dywedodd David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, y bydd Swyddfa Cymru, yn unol a’r ysbryd o barch sy’n bodoli rhwng…

Heddiw (29 Mehefin), dywedodd David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, y bydd Swyddfa Cymru, yn unol a’r ysbryd o barch sy’n bodoli rhwng Bae Caerdydd a San Steffan, yn mynd a Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol y Cynulliad ar Dai Cynaliadwy, heb ei ddiwygio, yn ei flaen.

Bydd y penderfyniad yn caniatau i’r Gorchymyn, a fu’n destun tair blynedd o oedi dan y Llywodraeth flaenorol, gwblhau ei daith drwy’r Senedd cyn gwyliau’r haf. Daw hyn yn sgil sicrwydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y bydd yn parhau i gefnogi dyheadau tenantiaid i fod yn berchen ar eu tai eu hunain, ac nad oes ganddi unrhyw fwriadau polisi a allai fynd yn groes i hynny.

Dywedodd Mr Jones: “Yr wythnos diwethaf, daeth Jocelyn Davies, sef y Dirprwy Weinidog dros Dai, a minnau, i gytundeb cyfeillgar ar Orchymyn diwygiedig i fynd ag ef rhagddo. Ond ar ol gwneud ymholiadau pellach, mae Swyddfa Cymru wedi deall y byddai bron yn amhosibl yn ymarferol i’r Gorchymyn diwygiedig gwblhau ei daith drwy’r Senedd er mwyn ei gyflwyno i’r Cyfrin Gyngor ar gyfer ei gymeradwyo ym mis Gorffennaf.

“Felly, gan barhau a’r ysbryd o barch at ein gilydd, a chan ddibynnu ar y sicrwydd a roddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, rydym am gyflwyno’r GCD drafft gwreiddiol heb ei ddiwygio gerbron Dau Dŷ’r Senedd i’w cadarnhau cyn gynted ag y bo modd, er mwyn i’r Cyfrin Gyngor allu gwneud y Gorchymyn fis nesaf.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Ni lwyddodd y Llywodraeth flaenorol i gael dadl ynghylch y GCD hwn yn y Senedd cyn yr Etholiad Cyffredinol pan gafodd y cyfle i wneud hynny, ac roedd ei hagwedd at y Gorchymyn yn amwys iawn. Rwy’n gobeithio y bydd y dull adeiladol hwn o weithio yn ffurfio sail bwysig ar gyfer holl drafodaethau’r dyfodol rhwng Whitehall a Bae Caerdydd.”