Cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yng Nghaerdydd, ddydd Iau 9 Gorffennaf 2026. Cyfarfod â thema benodol fydd hwn a fydd yn canolbwyntio ar yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU).
Cathays Park, Cardiff
Mae agenda lawn ac adroddiad y Cyfarwyddwr ar gael i chi fwrw golwg drostyn nhw cyn y cyfarfod.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y thema hon, a gwaith yr ASB yng Nghymru yn gyffredinol, ddod i’r cyfarfod a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored ar ôl y trafodaethau.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer dod i’r cyfarfod hwn yn bersonol, ond mae croeso i’r rhai sydd â diddordeb ymuno ar-lein a chyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor ymlaen llaw trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Manylion am y lleoliad
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mharc Cathays, Caerdydd. Fodd bynnag, mae nifer cyfyngedig o leoedd ac felly, cynhelir y cyfarfod ar-lein hefyd drwy MS Teams. Bydd y cyfarfod yn dechrau’n brydlon am 10am.
Cadw lle a chyflwyno cwestiynau
Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn gwylio’r cyfarfod ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth
Updates to this page
-
Updated title, subheading & body text to include more detail on the meeting.
-
Image updated.
-
Added translation